Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Dirprwy Weinidog yn ymateb i adroddiad arolygu ar Wasanaethau Cymdeithasol Plant yng Nghastell-nedd Port Talbot

Mae Gwenda Thomas, y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol, wedi gwneud datganiad mewn ymateb i adroddiad arolygu gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) ar Wasanaethau Cymdeithasol Plant a Phobl Ifanc yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.
Dydd Gwener 16 Rhagfyr 2011

Dywedodd y Dirprwy Weinidog:

“Mae arolygiad o wasanaethau cymdeithasol plant yng Nghyngor Castell-nedd Port Talbot wedi dangos bod yr awdurdod yn dal i fod yn benderfynol o wella’i wasanaethau cymdeithasol plant, a’i fod yn parhau i fuddsoddi yn y gwasanaethau hynny.

“Mae’r cyngor wedi cychwyn ar raglen sylweddol o newid er mwyn gwella’r trefniadau gweithio rhwng gwahanol asiantaethau ac i wella’r arferion ym maes gofal plant. Mae canfyddiadau’r adroddiad hwn yn dangos bod y cyngor wedi dod yn ei flaen yn dda ond mae hefyd yn nodi meysydd lle mae angen i’r cyngor fynd ati’n ddi-oed i wella’r gwasanaethau y mae’n eu darparu, er mwyn sicrhau lles a diogelwch plant.

“Mae Prif Arolygydd AGGCC wedi esbonio imi’r trefniadau sydd gan yr Arolygiaeth i fonitro cynnydd yr awdurdod yn rheolaidd. Rwyf wedi gofyn i’r Prif Arolygydd roi gwybod imi am gynnydd yr awdurdod wrth iddo wella ei wasanaethau plant.

“Bydd arolygiad arall o wasanaethau’r cyngor i blant yn cael ei gynnal yn ystod haf 2012.”

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Tagiau

Iechyd a gofal cymdeithasol 16 Rhagfyr 2011 Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i