Yn y digwyddiad yn Adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd, wnaeth croesau aelodau’r timau sydd wedi defnyddio lleoliadau ledled Cymru i baratoi ar gyfer y digwyddiad chwaraeon rhyngwladol mwyaf yn y byd.
Y timau Olympaidd sydd wedi’u lleoli yng Nghymru yw Rwsia, Botswana, Hong Kong, Seland Newydd, Trinidad a Tobago, Lesotho a’r Gymdeithas Bocsio Amatur Rhyngwladol.
Roedd arddangosfa ‘Dilyn y Fflam’ yr Ymddiriedolaeth Etifeddiaeth yn cael ei chynnal yn ystod y derbyniad. Mae’r arddangosfa yn defnyddio Gemau 2012 fel ysgogiad i archwilio a dathlu yr hanes ysbrydoledig sy’n aml yn cael ei anghofio am ddynion a merched Cymru sydd wedi cymryd rhan yn y Gemau.
Wnaeth y Prif Weinidog yn defnyddio’r derbyniad fel cyfle i hyrwyddo Cymru fel lleoliad hyfforddi cyn Gemau’r Gymanwlad 2014 yng Nglasgow.
Meddai’r Prif Weinidog:
"Mae’n wych cael croesawu’r timau Olympaidd sydd wedi bod yn hyfforddi cyn y Gemau yma yng Nghymru ac rydw i’n gobeithio bod eu gwaith paratoi yn mynd yn dda wrth i ni nesáu at ddechrau swyddogol Gemau Olympaidd 2012.
"Rydyn ni wrth ein bodd bod Cymru yn gallu cynnig cyfleusterau chwaraeon o safon ryngwladol sydd wedi denu rhai o’r prif dimau o bob cwr o’r byd. Mae’r gwersylloedd hyfforddi cyn y Gemau wedi rhoi cyfle gwych i ddatblygu cysylltiadau Cymru o ran chwaraeon, addysg a diwylliant gyda’r gwledydd sy’n cael eu cynrychioli yma heddiw.
"Rwy’n dymuno pob lwc yn y Gemau i’r timau sydd wedi ymgartrefu yng Nghymru ac rydw i’n gobeithio y byddwch chi’n dychwelyd i Gymru gyda’ch medalau."
Bydd Huw Lewis, y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth hefyd yn y digwyddiad. Dywedodd:
"Mae chwaraeon yn ddylanwad mawr ar bobl ifanc ac mae cael athletwyr byd-enwog yn hyfforddi ar garreg eu drws ac yn byw yn eu cymunedau wedi bod yn ysbrydoliaeth fawr. Maen nhw wedi rhoi cyfle i gymunedau lleol a phobl ifanc yn arbennig i ddysgu mwy am wledydd eraill a rhoi gwaddol cadarnhaol o’r Gemau i Gymru."
Er bod y Gemau’n cael eu cynnal yn Llundain, Cymru fydd yn cynnal digwyddiad cyntaf y Gemau yn y lleoliad enwog, Stadiwm y Mileniwm – sef pêl-droed merched Prydain Fawr yn erbyn Seland Newydd ar 25 Gorffennaf.











