Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Dymuniadau gorau i UDA ar Ddiwrnod Annibyniaeth

Mae Carwyn Jones y Prif Weinidog wedi anfon ei ddymuniadau gorau at bobl yr Unol Daleithiau wrth iddyn nhw ddathlu Diwrnod Annibyniaeth.
Dydd Mercher 04 Gorffennaf 2012

Mewn llythyr at Lysgennad yr Unol Daleithiau yn y Deyrnas Unedig, Mr Louis B. Susman, pwysleisiodd y Prif Weinidog mor bwysig oedd y berthynas rhwng y ddwy wlad.

Dywedodd y Prif Weinidog:

"Pob dymuniad da ichi a’n cyfeillion yn America wrth ichi ddathlu’r 4ydd o Orffennaf, sy’n nodi digwyddiad mor allweddol yn hanes eich gwlad.

"Gellir olrhain y berthynas rhwng Cymru ac America yn ôl i adeg llofnodi’r Datganiad Annibyniaeth a thu hwnt. Yn wir, byddai rhai’n dweud bod y cyswllt yn dyddio’n ôl i’r adeg yr hwyliodd Madog drosodd i America.

"Mae Cymry Americanaidd wedi chwarae rhan ganolog yn natblygiad penodau llyfr hanes eich cenedl.

"Erbyn heddiw rydym yn gwerthfawrogi’r cysylltiadau busnes, y cysylltiadau addysgol a’r cysylltiadau diwylliannol rhwng y ddwy wlad. Mae ein cysylltiadau masnach yn amhrisiadwy, gan mai’r Unol Daleithiau yw marchnad allforio fwyaf Cymru.

"Mae yna fwy na 200 o fusnesau a mentrau o’r Unol Daleithiau yn gweithredu yma yng Nghymru ar hyn o bryd, fel y Wales Fulbright Summer Institute sy’n helpu arweinwyr ifanc y dyfodol i feithrin perthynas â Chymru. Caiff y myfyrwyr sy’n cymryd rhan yn y cynllun gyfle i ddysgu mwy am dreftadaeth aruchel Cymru a’n sefyllfa ni fel cenedl fodern yn y DU ac yn fyd-eang.

"Ar ran pobl Cymru, dymuniadau gorau ichi wrth ichi ddathlu Diwrnod Annibyniaeth."

Arweiniodd y Prif Weinidog daith fasnach i’r Unol Daleithiau ym mis Mai eleni, er mwyn ehangu’r cysylltiadau rhwng Cymru a’r wlad. Yn nes ymlaen eleni bydd Llywodraeth Cymru yn arwain teithiau masnach i Los Angeles, San Francisco, Boston, Washington a Chicago.

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Tagiau

Prif Weinidog Cymru 04 Gorffennaf 2012 Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mehefin 2013
Ll M M I G S S
<< Mai    
          1 2
3 4 5 6 7 8 9
10 11 12 13 14 15 16
17 18 19 20 21 22 23
24 25 26 27 28 29 30
I'n dilyn ni trowch i