Cadeiriodd y Prif Weinidog cyfarfod diweddaraf Cyngor Adnewyddu’r Economi, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o fyd busnes, yr undebau llafur a mentrau cymdeithasol.
Pwysleisiodd y Prif Weinidog bod angen i Lywodraeth Cymru a’r sector preifat barhau i gydweithio er lles economi Cymru.
Roedd y CBI, Ffederasiwn Busnesau Bach, Sefydliad y Cyfarwyddwyr a TUC Cymru yn bresennol.
Yn ogystal â’r Prif Weinidog, cynrychiolwyd y Llywodraeth gan y Gweinidog Busnes Edwina Hart, y Gweinidog Cyllid Jane Hutt, y Gweinidog Tai Huw Lewis ac Alun Davies, y Dirprwy Weinidog sy’n gyfrifol am raglenni Ewropeaidd.
Bu trafod ar y £15 biliwn a roddwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru i’r Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru, ac roedd dyfodol Cronfeydd Strwythurol Ewrop a’r Papur Gwyn Tai hefyd ar yr agenda.
Dywedodd y Prif Weinidog:
"Does dim dianc rhag y ffaith bod yr amodau economaidd byd-eang yn ansicr o hyd, ac mae Cymru’n dioddef yr effeithiau. Yn ôl y data diweddaraf, bu gostyngiad o 0.3% yng Nghynnyrch Mewnol Crynswth y DU chwarter cyntaf y flwyddyn, sy’n golygu, yn dechnegol, ein bod nôl yn y dirwasgiad.
"Ar ben hyn, mae’r digwyddiadau gwleidyddol ac ariannol yng ngwledydd Parth yr Ewrop, yn enwedig gwlad Groeg a Sbaen, yn parhau i achosi llawer o ansicrwydd.
"Mae’n amlwg bod angen inni gadw llygad barcud ar yr ystadegau swyddogol a’u darogan yn gywir. Mae hwn yn gyfnod heriol, a rhaid ymateb yn chwim i newidiadau economaidd. Bydd y bobl oedd o amgylch y bwrdd heddiw’n gwybod sut mae pethau’n mynd ymhell cyn i’r ystadegau ddod mas.
"Dyna pam mae mor bwysig ein bod yn cynnal perthynas agored a chlos â byd busnes drwy Gyngor Adnewyddu’r Economi. Lle bo modd, mae angen inni barhau i weithio gyda’n gilydd i sicrhau ein bod yn gwneud y mwyaf o bob cyfle. Mae ein trafodaethau yn dangos bod y berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a’r gymuned fusnes yn ganolog i’r gwaith o adfer economi Cymru ar y cyd."











