Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Y Prif Weinidog yn canmol gwaith y timau achub yn y llifogydd

Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi sôn am y sioc a gafodd o weld y difrod a wnaed gan y llifogydd yn rhannau o’r Canolbarth.
Dydd Sul 10 Mehefin 2012

Canmolodd ddewrder y timau argyfwng a ofalodd fod hyd at 1,000 o bobl yng ngogledd Ceredigion a Phowys yn cael eu symud i le diogel.

Bydd Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau Llywodraeth Cymru, Carl Sargeant, yn ymweld â’r ardal i weld drosto’i hun y gwaith glanhau sy’n cael ei gynnal, ac i ddiolch i’r rheini a gyfrannodd at y gwaith achub.

Meddai Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones:

“A finne wedi treulio nifer o flynyddoedd yn byw ac yn astudio yn Aberystwyth, roedd hi’n anferth o sioc gweld faint o ddifrod yr oedd y llifogydd wedi’i wneud mewn ardal sy’n gyfarwydd iawn ifi.

“Ond unwaith eto, rwyf wedi bod yn dyst i ddewrder ein gwasanaethau argyfwng.  A hwythau’n gweithio o dan amodau brawychus, gofalon nhw fod hyd at 1,000 o bobl yn cael eu symud i le diogel.  Diolch i broffesiynoldeb ac ymroddiad y criwiau argyfwng proffesiynol a gwirfoddol, chafodd yr un bywyd ei golli.

“Rwyf wedi bod yn dilyn y datblygiadau’n fanwl ar hyd y penwythnos.  Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio nawr â’r holl asiantaethau dros yr oriau, dyddiau ac wythnosau nesaf i unioni’r sefyllfa i’r cymunedau hyn cyn gynted â phosibl.”

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Tagiau

Prif Weinidog Cymru 10 Mehefin 2012 Amddiffyn rhag llifogydd Y Canolbarth
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i