Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Gweinidogion yn cael cip ar gynnwys Capsiwl Amser

Mae siwmper ysgol, bwydlen cinio ysgol, pensiliau, papur newydd lleol, DVDs, derbynneb archfarchnad a llawer iawn o bethau eraill wedi’u cynnwys mewn capsiwl amser a fydd yn cael ei gladdu o dan ardal y dderbynfa yn swyddfa newydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yng Nghyffordd Llandudno.
Dydd Iau 19 Tachwedd 2009
Plant ysgol yn dangos yr eitemau yr oeddent wedi’u dewis ar gyfer y Capsiwl Amser i Rhodri Morgan, Prif Weinidog Cymru a Ieuan Wyn Jones, Dirprwy Brif Weinidog Cymru.

Dewiswyd yr eitemau gan blant o Ysgol Nant y Coed, Ysgol Maelgwn, Ysgol Aberconwy ac Ysgol y Creuddyn.    

Yn ystod ymweliad diweddar â’r Ganolfan Ymwelwyr ger safle’r swyddfa newydd, cafodd y plant ysgol gyfle i ddangos yr eitemau yr oeddent wedi’u dewis  i Rhodri Morgan, Prif Weinidog Cymru a Ieuan Wyn Jones, Dirprwy Brif Weinidog Cymru.  

Bydd y capsiwl amser, a wnaed o ddeunydd wedi’i ailgylchu o lwyfan  olew ac a ddarparwyd gan gwmni o Sir Ddinbych, yn cael ei gladdu yn 2010 cyn i’r adeilad newydd agor. Bydd yn aros o dan ddaear am hanner can mlynedd.

Meddai Rhodri Morgan, Prif Weinidog Cymru: “Mae wedi bod yn ddiddorol iawn gweld yr eitemau y mae’r disgyblion wedi’u dewis. Pan godir y capsiwl amser mewn hanner can mlynedd, bydd yr eitemau yn rhoi blas ar fywyd yn 2009.

“Mae datganoli wedi bod gennym ers deng mlynedd bellach a bydd y capsiwl amser yn cael ei agor ar ôl chwedeg mlynedd o ddatganoli. Gallwn ond ddychmygu pa newidiadau fydd wedi digwydd yn yr amser hwnnw, ond bydd agor swyddfa newydd Cyffordd Llandudno yn dangos bod ymrwymiad Llywodraeth y Cynulliad i wasanaethu pobl y Gogledd cyn gryfed yn 2060 ag y mae yn awr.”

Dywedodd Ieuan Wyn Jones, Dirprwy Brif Weinidog Cymru:

“Bydd agor y swyddfa newydd yma yng Nghyffordd Llandudno o fudd i Lywodraeth Cynulliad Cymru a Gogledd Cymru. Mae’n sicrhau bod Llywodraeth y Cynulliad yn agosach at y cymunedau y mae’n eu gwasanaethu ac mae’n addas iawn bod plant yr ysgolion lleol yn cymryd rhan yn y prosiect.”

Dywedodd Ann Bradshaw, Dirprwy Bennaeth yn Ysgol Aberconwy: “Y mae hwn wedi bod yn gyfle gwych i blant gymryd rhan mewn gweithgaredd a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar yr ardal. Maent wedi bod yn awyddus i chwarae rhan yn y gwaith datblygu o’r dechrau.”

Disgwylir i’r gwaith o godi’r swyddfa newydd ddod i ben erbyn gwanwyn 2010 a bydd y staff yn symud i’r swyddfa yn ystod yr haf. Yn yr adeilad hefyd bydd ardal gyhoeddus, sef Y Bont, lle bydd unrhyw un yn gallu dod i mewn a dysgu mwy am Lywodraeth Cynulliad Cymru, defnyddio’r we a mwynhau paned o goffi.

Ar hyn o bryd, mae’r capsiwl amser i’w weld yng Nghanolfan Ymwelwyr Llywodraeth y Cynulliad, 2 Narrow Lane, Cyffordd Llandudno. Mae’r ganolfan yn agored i ymwelwyr rhwng 10 y bore a 4 y prynhawn, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

19 Tachwedd 2009

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Tagiau

Prif Weinidog Cymru 19 Tachwedd 2009
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i