Bu'r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y T?, sydd bellach yn gyfrifol am gydraddoldeb, yn siarad gyda changen Cymru o'r Comisiwn er mwyn datgan ei blaenoriaethau a thrafod y newidiadau i dirwedd cydraddoldebau Cymru.
Meddai'r Gweinidog:
"Rwy'n falch i ymgymryd â'r cyfrifoldeb dros gydraddoldebau yng Nghymru, ac edrychaf ymlaen at barhau â'r gwaith da sy'n deillio o'r berthynas ragorol rhwng Llywodraeth Cymru a'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.
"O ran cynhwysiant, mae'n gyfnod pwysig iawn yng Nghymru - rydym yn arwain y ffordd yn y DU drwy roi Dyletswyddau Penodol Cymreig ar waith yn Llywodraeth Cymru a fydd yn cael eu gweld fel patrwm da i gyrff cyhoeddus eraill mewn perthynas â chynnwys a gweithredu.
"Rydym wedi cyflawni llawer y gallwn deimlo'n falch iawn ohono. Ond hefyd mae nifer o heriau newydd ar y gorwel y mae angen inni fynd i'r afael â nhw, a mentrau y mae angen inni eu datblygu. Bydd hyn yn ein helpu ni i hyrwyddo cydraddoldeb, mynd i'r afael â gwahaniaethu a rhagfarn ac yn helpu i adeiladu cymdeithas deg a goddefgar yng Nghymru."Rwyf am wneud gwahaniaeth positif i bobl Cymru. Rwyf am weld gwelliant gwirioneddol i ffordd o fyw pobl sy'n teimlo nad ydynt yn cael eu gwerthfawrogi neu'n teimlo eu bod yn cael eu gwahaniaethu yn eu herbyn. Rwyf am i bobl fwyaf bregus ein cymdeithas deimlo eu bod yn cael eu cynnwys a'u bod yn rhan o'r byd rydyn ni'n ei greu. Credaf y gall y dyletswyddau newydd hyn wneud y gwahaniaeth hwnnw'n realiti."
Meddai Kate Bennett, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Cymru o'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:
"Mae'r dyletswyddau newydd yn offeryn pwerus, sy'n sicrhau bod awdurdodau cyhoeddus yn ystyried anghenion grwpiau gwahanol wrth wneud penderfyniadau am sut i wario arian.
"Mae'r Comisiwn yn darparu canllawiau a chefnogaeth i helpu awdurdodau lleol roi'r dyletswyddau newydd ar waith yn effeithiol. Drwy weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru ac eraill, ein nod yw adeiladu Cymru sydd â thegwch yn ei chalon."











