Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Y Gweinidog yn arwain cyfarfod i drafod dyfodol ffatrïoedd Remploy yng Nghymru

Fel rhan o ymdrech Llywodraeth Cymru i ddiogelu swyddi’r staff sy’n gweithio yn ffatrïoedd Remploy yng Nghymru, mae Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg a Sgiliau, wedi bod yn cadeirio cyfarfod o randdeiliaid allweddol heddiw i drafod yr opsiynau ar gyfer ffatrïoedd Remploy yng Nghymru, sydd dan fygythiad.
Dydd Llun 26 Mawrth 2012

Mynychwyd cyfarfod cyntaf y Bwrdd Cynghori Strategol gan randdeiliaid blaenllaw sydd â diddordeb yn nyfodol Remploy yng Nghymru. Yn eu plith y mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Social Firms Cymru, Canolfan Cydweithredol Cymru, Siambr Fasnach De Cymru, Dacey Limited, Tai Cymunedol Cymru, Cartrefi Rhondda Cynon Taf, Beacon Creative Wales Ltd, a Remploy Limited (Baglan).

Yn dilyn Adolygiad Sayce, mae Maria Miller, Gweinidog y DU ar gyfer Pobl Anabl, wedi derbyn y cynigion ar gyfer cau saith o’r naw ffatri Remploy yng Nghymru - yn Aberdâr, Abertyleri, Pen-y-bont ar Ogwr, Croespenmaen, Merthyr, Abertawe a Wrecsam, gan effeithio ar 272 o weithwyr anabl. Bernir y gallai’r ffatrïoedd yn y Porth ac yng Nghastell-nedd fod yn rhai hyfyw.

Penderfynwyd yn y cyfarfod heddiw y byddai Llywodraeth Cymru yn parhau i bwyso am drafodaethau adeiladol gyda Llywodraeth y DU, ac y byddai hefyd yn gweithio gyda rhanddeiliaid yng Nghymru i edrych ar amryfal faterion ac opsiynau, gyda’r nod o gadw gwaith yng Nghymru.

Dywedodd y Gweinidog:

“Rydyn ni’n dal i fod yn siomedig iawn â phenderfyniad Llywodraeth y DU i leihau’r cymhorthdal y mae’n ei roi i Remploy ar hyn o bryd. Mae hynny’n golygu y bydd ffatrïoedd yma yng Nghymru yn cau.  

“Dw i wedi gofyn i  Maria Miller ddatganoli’r cyllid ar gyfer ffatrïoedd Remploy yng Nghymru am y tair blynedd nesaf, ac mae Prif Weinidog Cymru wedi ysgrifennu at Brif Weinidog y DU gan groesawu ei ymrwymiad i ystyried cynigion i ddatganoli’r cyfrifoldeb dros ffatrïoedd Remploy i Gymru. Byddwn ni’n parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU yn hyn o beth.

“Er mai cyfrifoldeb Llywodraeth y DU, ac nid Llywodraeth Cymru, yw’r penderfyniad sydd wedi’i wneud am Remploy, dydyn ni ddim yn barod i laesu dwylo a gweld swyddi’n cael eu colli’n ddiangen. Mae Liz Sayce ei hun, Prif Weithredwr Hawliau Anabledd y DU, a gynhaliodd yr adolygiad, wedi dweud ei bod yn bwysig bod ffatrïoedd yn cael cyfle i ddangos a allan nhw fod yn hyfyw.

“Rydyn ni wedi dweud y byddwn ni’n gweithio gyda Remploy, yr undebau, a’r llu o unigolion a chyrff eraill sydd â diddordeb yn y mater hwn i weld a allwn ni ddod o hyd i opsiwn ymarferol ar gyfer y gweithwyr yng Nghymru gan ddefnyddio’r pwerau sydd ar gael i ni. Rhan gyntaf y broses honno yw’r cyfarfod hwn.”

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Tagiau

Addysg a sgiliau 26 Mawrth 2012 Yr economi Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2012
Ll M M I G S S
<< Ebr   Meh >>
  1 2 3 4 5 6
7 8 9 10 11 12 13
14 15 16 17 18 19 20
21 22 23 24 25 26 27
28 29 30 31      
I'n dilyn ni trowch i