Mae Coleg Harlech, sydd wedi uno â Chymdeithas Addysg y Gweithwyr yn y Gogledd, yn darparu ystod eang o raglenni addysg. Mae’r rhain yn cynnwys cyfleoedd i oedolion dan anfantais gymdeithasol ac addysgiadol sy’n preswylio yn Harlech ac mewn cymunedau a gweithleoedd ar draws y Gogledd a’r Canolbarth. Mae Coleg Harlech hefyd yn cynnig darpariaeth breswyl a llawnamser i ddysgwyr o bob cwr o Gymru a Lloegr.
Yn ddiweddar mae’r coleg wedi adolygu ei drefniadau preswyl ar gyfer myfyrwyr gan fod angen gwelliannau ac addasiadau sylweddol i’r bloc sy’n lletya’r myfyrwyr.
Felly, mae’r Gweinidog wedi penderfynu bod angen cynnal adolygiad o’r trefniadau buddsoddi cyfalaf a’r bwrsari cyfredol. Bydd yr adolygiad yn pennu trefniadau cyllido’r ddarpariaeth breswyl yng Ngholeg Harlech.
Bydd y grŵp gorchwyl a gorffen yn cynnwys tri pherson sydd â chefndir a diddordeb mewn addysg undeb llafur, addysg ôl-orfodol ac addysg sgiliau galwedigaethol.
Dyma aelodaeth y grŵp adolygu:
- Jim Hancock OBE, cyn Lywydd TUC (Cymru) yn gadeirydd annibynnol a phrif adolygwr;
- Caroline Lewis, cyn Brifathro Coleg AB, sydd â phrofiad o’r sector addysg bellach; ac
- Elaine Allinson, cyn bennaeth Cyfarwyddiaeth Arolygu Estyn sydd â phrofiad o Addysg Barhaus Oedolion a’r sector addysg bellach.
Bydd y Grŵp Adolygu’n cynghori Llywodraeth Cynulliad Cymru ar ba mor briodol yw cefnogi cynigion am gyllid cyfalaf i wella llety a bwrsariaethau i fyfyrwyr preswyl yng Ngholeg Harlech. Bydd y Grŵp yn cyflwyno adroddiad terfynol erbyn Ionawr 2010.
Meddai Jane Hutt:
“Mae gan y gwasanaeth addysg yng Nghymru ystod o heriau, ac mae angen buddsoddi adnoddau mewn llawer ohonynt. Er mwyn penderfynu sut i gael y canlyniadau dysgu gorau posib o’r buddsoddiad hwn, rhaid i ni wneud penderfyniadau ar flaenoriaethau. Y cwestiwn sydd angen i ni ei ateb yw a yw buddsoddi mewn llety preswyl yng Ngholeg Harlech yn flaenoriaeth newydd sy’n uwch na galwadau eraill sy’n cystadlu am fuddsoddiad.”
Dylai unrhyw bartïon â buddiant neu aelodau o’r gymuned leol sy’n dymuno mynegi eu safbwyntiau neu farn anfon eu sylwadau i:colegharlechreview@wales.gsi.gov.uk
3 Rhagfyr 2009











