Nodwyd yr angen am adolygiad yn Y Wlad Sy’n Dysgu: Gweledigaeth ar Waith, ac fe’i comisiynwyd i ystyried y ddarpariaeth AB ôl-14 yng Nghymru a sut y gellir ei datblygu mewn ffordd well yn y dyfodol.
Roedd yr adolygiad nid yn unig yn dadansoddi Sefydliadau AB, ond hefyd yn ystyried datblygiadau ym maes addysg 14-19; yr ymateb i anghenion cyflogwyr a’r economi o ran sgiliau; dysgu ymhlith oedolion, cyfiawnder cymdeithasol ac ymgysylltiad â’r gymuned.
Mae’r adolygiad wedi’i gynnal gan banel annibynnol o dri arbenigwr gan ddefnyddio cymorth pellach grŵp cyfeirio ehangach sydd ag arbenigedd mewn ysgolion, AB, cyflogaeth, sgiliau ac addysg uwch. Cadeiriwyd y panel adolygu gan Syr Adrian Webb, a Sheila Drury OBS a Gary Griffiths oedd y lleill.
Bwriedir i waith yr Adolygiad gysylltu â’r Strategaeth Sgiliau a Chyflogaeth arfaethedig a gyhoeddir ar gyfer ymgynghoriad ym mis Ionawr 2008.
Dywedodd John Griffiths:
Rwy eisiau sicrhau bod darpariaeth addysgol Cymru yn diwallu anghenion ei phobl a’i heconomi nawr ac yn y dyfodol. Mae hyn yn ganolog i amcanion Llywodraeth Cynulliad Cymru ac mae’n un o ymrwymiadau sylweddol Cymru’n Un.
Hoffwn ddiolch i Syr Adrian Webb ac aelodau eraill y panel am eu gwaith yn cynnal yr Adolygiad ac rwy’n edrych ymlaen at ystyried eu casgliadau ac at weld lle y gallwn weithredu arnynt yn ymarferol.
Nodiadau
Aelodau’r Panel
Syr Adrian Webb (Cadeirydd)
Yr Athro Syr Adrian Webb yw Cadeirydd Ymddiriedolaeth GIG Pontypridd a Rhondda ac mae’n aelod anweithredol o Fwrdd Gweithredol Llywodraeth Cynulliad Cymru. Bu’n Is-Ganghellor Prifysgol Morgannwg nes Rhagfyr 2005. Cyn hynny bu’n ddarlithydd yn Ysgol Economeg Llundain ac yn Athro Polisi Cymdeithasol ym Mhrifysgol Loughborough. Arweiniodd ei yrfa academaidd at lawer o brosiectau ymchwil, cyhoeddiadau a gwasanaethau ymgynghori. Bu ganddo lawer o rolau pwyllgora a chynghori yn Whitehall ac yng Nghymru, gan gynnwys Panel Cynhyrchiant Gwasanaethau Cyhoeddus Trysorlys EM, ac mae wedi cadeirio sawl ymchwiliad cenedlaethol. Bu’n rhan o waith Adolygiad Beecham. Tyfodd i fyny yn Ne Cymru ac mae’n byw yno ar hyn o bryd.
Sheila Drury CBE
Mae Sheila Drury wedi cael gyrfa hir ac unigryw yn cwmpasu addysg, hyfforddiant a busnes, gan weithio yn yn y sectorau cyhoeddus, gwirfoddol a phreifat, ac ar hyn o bryd mae’n aelod o Grŵp Cynghori Gweinidog Llywodraeth y Cynulliad dros Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau. Mae ei phrofiad a’i harbenigedd yn cynnwys cynnal grŵp o gwmnïau electroneg, gan weithio yn rheng flaen busnes di-lol uchel-ei-risg am dros 20 mlynedd yn ogystal â bod yn Gadeirydd Gweithredol ELWa, cyn-Gyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant.
Gary Griffiths
Gary Griffiths yw Rheolwr Strategol Rhaglenni Prentisiaeth Airbus UK. Mae e’n eistedd ar nifer o gyrff cynghori gan gynnwys Grŵp Sgiliau’r Sector Awyrofod, Fforwm Datblygiad Rhanbarthol De-Orllewin Lloegr, Gweithgor Prentisiaeth Peirianneg Uwch y DU a grŵp cynghori SEMTA ar gyfer Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru. Fe sy’n cynrychioli Airbus UK ar Brosiect Sgiliau Rhyngwladol Strategol Airbus a Rhaglen Cymhwysedd Rhyngddiwylliannol Airbus. Mae e’n dod â gwybodaeth, arbenigedd a phrofiad o’r sector a’r diwydiant dysgu seiliedig ar waith i’r Panel Adolygu Annibynnol.
Dydd Mawrth 11 Rhagfyr 2007











