Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Y Gweinidog yn agor prosiect Adizone

Heddiw, cafodd man chwarae amlddefnydd ei agor yn swyddogol yn Aberystwyth gan Huw Lewis AC, y Gweinidog dros Adfywio. Mae’r prosiect Adizone wedi’i leoli ym Min-y-Ddôl ym Mhenparcau a chafodd ei ddatblygu yn dilyn cyfraniad ariannol o £250,000 gan Gronfa Adfywio Llywodraeth Cymru. Mae’r mannau hyn yn cael eu cyflwyno ledled y DU fel rhan o brosiect Gwaddol Gemau Olympaidd 2012 gyda’r nod o annog mwy o bobl, yr hen a’r ifanc, i wneud ymarfer corff yn rheolaidd.
Dydd Gwener 22 Mehefin 2012

Yn yr agoriad, pwysleisiodd Huw Lewis bwysigrwydd y mannau hyn,

“Mae hon yn flwyddyn bwysig o chwaraeon i ni ym Mhrydain wrth i ni groesawu’r Gemau Olympaidd. Rydyn ni am ddatblygu’r diddordeb hwn ac ni ddylid tanbrisio ymdrechion i annog plant yn arbennig i wneud mwy o ymarfer corff, yn aml drwy chwarae. Gall hyn gyfrannu yn gadarnhaol at eu datblygiad yn y dyfodol.

“Rwy’n falch iawn fod gan y Bwrdd Adfywio Lleol y weledigaeth i gefnogi’r prosiect hwn ac rwy’n hyderus y bydd y buddsoddiad yn sicrhau manteision sylweddol yn y dyfodol.”

Lleolir y prosiect Adizone ei hun ym Min-y-Ddôl ym Mhenparcau, sy’n ardal Cymunedau yn Gyntaf, ac mae Bryn Jones, cydlynydd rhanbarthol Cymunedau yn Gyntaf, wedi croesawu’r datblygiad.

“Ers i Aberystwyth gael ei nodi fel Ardal Adfywio gan Lywodraeth Cymru mae wedi bod yn galonogol i weld y mentrau amrywiol sydd wedi’u datblygu. Mae’r prosiect Adizone yn rhan hanfodol o’r darlun gan ei fod yn rhoi cyfle i’n trigolion gymryd rhan mewn gweithgareddau a fydd yn hybu eu hiechyd yn ogystal â’u lles cyffredinol drwy gymdeithasu ag eraill. Yn bendant, mae wedi creu cyffro ac rwy’n hyderus y bydd defnydd mawr yn cael ei wneud ohono.”

Roedd Bronwen Morgan, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ceredigion, hefyd o’r un farn.

“Mae’r Awdurdod Lleol yn mynd ati i sicrhau bod y broses o adfywio Aberystwyth yn gwella bywydau trigolion y dref a thrigolion yr ardal ehangach mewn modd cadarnhaol. Mae prosiect Adizone yn cynnig cyfleoedd i bawb yn ein cymunedau gymryd rhan mewn gweithgareddau ymarfer corff, ac rydyn ni’n falch iawn bod Ceredigion yn gallu manteisio ar effaith y Gemau Olympaidd.”

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Gemau 2012

Tagiau

Diwylliant a chwaraeon 22 Mehefin 2012 Gemau olympaidd 2012 Programme for Government - Healthcare Y Canolbarth
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i