Mae archif ITV yn un o’r archifau teledu mwyaf yn Ewrop ac mae'n cynnwys tua 250,000 o eitemau gan gynnwys caniau o ffilm, tapiau a fformatau eraill.
Mae'n cynrychioli hanes diwylliannol, cymdeithasol a gwleidyddol unigryw Cymru yn ystod y 60 mlynedd diwethaf ac mae’n cynnwys rhai o ddelweddau teledu mwyaf eiconig yr oes.
Maent yn cynnwys trychineb Aberfan yn 1966, arwisgiad Tywysog Cymru yn 1969, taith fuddugoliaethus y Llewod i Seland Newydd yn 1971, streic y glowyr yn 1984 ac agoriad Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 1999.
Maent yn cynnwys nifer o enwogion fel Richard Burton, Ivor Emmanuel, Siân Phillips, Syr Geraint Evans a gwahanol gyflwynwyr oedd yn enwog yn eu dydd.
Bydd casgliad o ddeunydd Cymraeg a Saesneg sydd yn werthfawr iawn i’r genedl yn cael ei drosglwyddo i’r Llyfrgell Genedlaethol lle bydd yn cael ei gadw yn ogystal â bod ar gael i’r cyhoedd ei weld.
Dan y cytundeb, bydd gan ITV Wales hefyd fynediad llawn at yr archif ar gyfer darllediadau yn y dyfodol a bydd yn gallu defnyddio’r deunydd i bwrpas masnachol unrhyw adeg. Bydd ffilmiau digidol a grëir o’r deunyddiau gwreiddiol ar gael i ITV Cymru.
Bydd Owain Meredith, archifydd ITV Cymru, yn gweithio gydag LlGC i hwyluso’r broses o gael mynediad at y deunydd a pharatoi cynnwys ar gyfer cynhyrchu rhaglenni (yn cynnwys newyddion) a gwerthu clipiau ar ran ITV.
Meddai Huw Lewis y Gweinidog Treftadaeth,
“Mae nifer o’r archifau hyn yn dystiolaeth fyw o hanes Cymru ac yn rhoi cipolwg gwerthfawr ar sut mae Cymru wedi datblygu yn ystod y 50 mlynedd diwethaf. Mae sicrhau ein bod yn cadw’r archif yn hollbwysig i ddiogelu ein diwylliant cyfoethog ac amrywiol fel y gall cenedlaethau’r dyfodol weld sut mae digwyddiadau bach a mawr wedi helpu i ddylanwadu ar bwy ydym heddiw.”
Meddai Phil Henfrey, Pennaeth Newyddion a Rhaglenni yn ITV Cymru,
“Nid gor-ddweud fyddai disgrifio archif ffilm a theledu ITV Cymru fel trysor cudd o ddeunydd darlledu.
“Bydd y cytundeb ag LlGC yn golygu bod yr adnodd arbennig hwn mewn perchnogaeth gyhoeddus er budd y genedl ac ar yr un pryd caniateir i ITV fanteisio i’r eithaf ar botensial masnachol a chreadigol yr archif.”
Meddai Andrew Green, Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru,
“Archif ITV yw un o’r ychwanegiadau pwysicaf i gasgliadau’r Llyfrgell ers blynyddoedd. Nid gorliwio fyddai dweud ei fod yn crynhoi hanes Cymru yn ystod ail hanner yr ugeinfed ganrif. Bydd Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru yn awr, yn ogystal a chynnal gwasanaeth i ITV, yn sicrhau fod yr archif ar gael at bwrpas addysgol ac at ddefnydd y cyhoedd."











