Mae Taith y Fflam Olympaidd wedi bod yng Nghymru am ychydig dros bum niwrnod. Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae wedi ymweld â phob awdurdod lleol, ac wedi teithio heibio i dirnodau hanesyddol megis y Senedd, traphont ddŵr Pontcysyllte, heibio i lawer o’n cestyll a’n hamgueddfeydd a mwy nag un stadiwm. Mae hyd yn oed wedi cyrraedd copa’r Wyddfa.
Er bod y dirwedd wedi amrywio ar hyd y daith, ni wnaeth y gefnogaeth. Yn ôl brasamcan ffigurau a gasglwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, daeth mwy na 700,000 o bobl allan i’r strydoedd dros y diwrnodau diwethaf. Roeddynt yn awyddus i weld y ffagl eiconig yn mynd drwy eu trefi a’u pentrefi ac i gefnogi cludwyr y fflam, a llawer ohonynt wedi cael eu henwebu am y gwaith caled sy’n cael ei wneud ganddynt yn eu cymunedau eu hunain.
Dywedodd Huw Lewis, y Gweinidog â chyfrifoldeb am Chwaraeon,
"Yr wythnos ddiwethaf, siaradais i gan edrych ymlaen at weld y cyffro am y Gemau Olympaidd yn cynyddu yng Nghymru. Erbyn hyn, fodd bynnag, mae’n deg dweud ein bod ni i gyd yng nghanol cyffro'r Gemau Olympaidd.
"Mae’r niferoedd yn gwbl syfrdanol! Roeddwn i ar Ynys y Barri fore dydd Sadwrn i weld y daith. Er imi gyrraedd ymhell cyn 8am, roedd y strydoedd eisoes yn llawn a miloedd o bobl wedi dod yno i ddymuno’n dda ac i fanteisio ar gyfle sy’n digwydd unwaith mewn oes. Yr hyn a wnaeth fy nharo i oedd y balchder a oedd gan bobl yn eu cymunedau, a ddaeth i’r amlwg yn sgil y niferoedd a oedd yno. Dw i’n siŵr bod hynny’n wir ble bynnag yr aeth y ffagl iddo yng Nghymru."
Yn ogystal â dangos llawer o olygfeydd prydferth Cymru, mae’r daith hefyd yn gyfle gwych i bawb a gafodd eu dewis i gario’r ffagl, a llawer ohonynt â straeon i’ch ysbrydoli, i ddangos i’r byd beth sy’n gwneud Cymru yn lle unigryw.
Bydd Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012 yma cyn hir a Cymru fydd yn cynnal digwyddiad cyntaf y Gemau. Dywedodd y Gweinidog ei fod yn gobeithio y byddai ysbryd y Gemau Olympaidd yn parhau yng Nghymru wrth i’r Gemau agosáu. Roedd yn gobeithio hefyd y byddai llawer o gefnogwyr o Gymru yn dod i weld y gystadleuaeth bêl-droed a fyddai’n nodi cychwyn y gemau, a hynny yn Stadiwm y Mileniwm ar 25 Gorffennaf.
Fodd bynnag, nid dilyn y ffagl a gwylio chwaraeon yw’r unig ffyrdd o gymryd rhan yng Ngemau Llundain 2012. Os ydych chi wedi trefnu dathliad ar gyfer y Gemau, gallwch gofrestru i fod yn arweinydd lleol. P’un a ydych am wahodd tri o ffrindiau neu’r gymuned gyfan, cewch becyn dathlu, cyfle i hysbysebu eich digwyddiad ar restr digwyddiadau Gemau Llundain 2012 a’r cyfle i gymryd rhan mewn cystadlaethau unigryw.











