Dywedodd fod gwella canlyniadau i blant a phlant sy’n agored i niwed yn dal i fod yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru.
Dywedodd Gwenda Thomas:
“Rydw i’n bersonol wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch plant sy’n derbyn gofal, a’u bod yn cael sefydlogrwydd. Rwy’n cydnabod y rôl bwysig y mae Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu yn ei chwarae i godi proffil mabwysiadu.”
“Yn gynnar y flwyddyn nesaf, byddaf yn ymgynghori ar y darpariaethau yn y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol drafft, gan gynnwys y trefniadau ar gyfer asiantaeth mabwysiadu genedlaethol. Mae angen inni gydweithio’n well a chomisiynu gwasanaethau ar y cyd, a gwasanaethau arbenigol fel mabwysiadu yn arbennig. O ganlyniad, bydd llai o blant mewn gofal. Bydd adnoddau hefyd yn cael eu defnyddio’n fwy effeithlon er mwyn darparu hyfforddiant ac asesu. Byddwn hefyd yn gwneud mwy o ddefnydd o Asiantaethau Mabwysiadu Gwirfoddol, felly bydd y broses o baru plant â rhieni yn gwella a bydd y dewis o leoliadau mor eang â phosibl.”
“Gallwn ni wneud hyn drwy wneud pethau yn wahanol, a pheidio â gwneud popeth 22 o weithiau.”
Cafodd y digwyddiad, a oedd yn cael ei noddi gan y Dirprwy Weinidog, a’i gynnal yn adeilad Senedd y Cynulliad Cenedlaethol, ei drefnu mewn partneriaeth ag Adoption UK, BAAF, After Adoption, Cymdeithas Plant Dewi Sant a Barnardos.
Ychwanegodd y Dirprwy Weinidog:
“Rwy’n annog y rheini sy’n ystyried mabwysiadu i feddwl am roi cartref cariadus i grŵp o frodyr a chwiorydd, plentyn anabl, neu blentyn hŷn, a llawer ohonynt wedi wynebu gormod o dristwch yn ystod eu bywydau byr.”











