Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Ystadegau cyntaf y du yn dangos gwariant o £4.4bn ar blant yng Nghymru

Mae ystadegau a ryddhawyd heddiw yn dangos bod £4.4 biliwn wedi ei wario ar blant yng Nghymru yn 2006-07.
Dydd Mawrth 10 Mawrth 2009

Dyma’r tro cyntaf y mae ystadegau cynhwysfawr o’r math hwn wedi’u rhyddhau yn y Deyrnas Unedig ac mae’n un o ofynion allweddol Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Bydd y data yn helpu i lywio a datblygu polisi’r llywodraeth yn y dyfodol.

Mae’r ystadegau’n dangos bod y gwariant fesul plentyn gan Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi codi o £5,600 yn 2005-06 i £5,900 yn 2006-07. Disgwylir i hyn godi i £7,100 erbyn 2010-11 gyda chyfran cyllideb Llywodraeth y Cynulliad a gaiff ei dyrannu i blant yn aros yn rhyw 28 y cant.

Dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog dros Blant:

Rydyn ni am sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn cael y dechrau gorau posib mewn bywyd. A Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn ganolog i bopeth rydyn ni’n ei wneud, rydyn ni’n hyrwyddo polisïau sy’n rhoi’r lle canolog i hawliau, iechyd a hapusrwydd plant.

Mae’r arian sylweddol sydd wedi’i nodi yn yr ystadegau cyntaf newydd hyn ar gyfer y DU yn dangos ymrwymiad clir i sicrhau ein bod ni’n gweithio i wella cyfleoedd bywyd ein pobl ifanc ar draws holl bortffolios Llywodraeth y Cynulliad, o iechyd i drafnidiaeth.

Mae’n nod gyda ni i ddiddymu tlodi ymhlith plant erbyn 2020. Drwy wneud buddsoddiadau ariannol sylweddol ym mywydau plant, gan sicrhau bod gyda nhw’r hawliau y maen nhw’n eu haeddu, fe allwn ni helpu i wneud y nod hwn yn realiti.

10 Mawrth 2009

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Plant a phobl ifanc

Tagiau

Plant a phobl ifanc 10 Mawrth 2009
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2012
Ll M M I G S S
<< Ebr   Meh >>
  1 2 3 4 5 6
7 8 9 10 11 12 13
14 15 16 17 18 19 20
21 22 23 24 25 26 27
28 29 30 31      
I'n dilyn ni trowch i