O dan y Gronfa Cymunedau Arfordirol, a sefydlwyd gan Drysorlys y DU, mae grantiau ar gael i ariannu prosiectau sy’n rhoi hwb i ragolygon economaidd cymunedau arfordirol ledled y DU. Yng Nghymru, mae’r gronfa’n cael ei rhedeg drwy bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a’r Gronfa Loteri Fawr, ac aed ati heddiw i gyhoeddi pwy fydd yn cael grant eleni.
Bydd y pum cynllun yng Nghymru yn rhannu swm o bron £1 filiwn, a bu Huw Lewis, y Gweinidog Treftadaeth, yn eu llongyfarch ar lwyddiant eu ceisiadau.
Dywedodd,
“Mae datblygu trefi arfordirol yn un o’r blaenoriaethau adfywio allweddol yn ein Rhaglen Lywodraethu, a dw i’n edrych ymlaen at weld sut gall prosiectau fel hyn gefnogi a helpu i roi hwb i ddatblygiad economaidd ein cymunedau.
“Drwy gydweithio â busnesau, elusennau a grwpiau cymunedol, gallwn gwrdd â’n holl ymrwymiadau o ran adfywio. Mae’r gronfa hon yn helpu’r bobl hynny sydd â gwybodaeth leol ac arbenigol o’n cymunedau arfordirol i fynd i’r afael â’r materion hynny sydd bwysicaf yn eu golwg nhw.”
Ychwanegodd Jan Reed, cadeirydd Cymru ar y Gronfa Cymunedau Arfordirol,
“Mae’r un naws cryf am le yn perthyn i’n Cymunedau Arfordirol, a bydd yr arian hwn yn rhoi hwb derbyniol iawn i bum ardal drwy helpu i ddatblygu eu heconomïau lleol.”
Dyma’r pum prosiect a fydd yn elwa ar arian o’r gronfa:
- Bay Leisure Limited - cynllun yn Abertawe sydd â’r nod o greu Canolfan Ragoriaeth ar gyfer Chwaraeon Dŵr er mwyn cynnig amrywiaeth o weithgareddau gan ddefnyddio asedau naturiol y traeth a’r glannau (£140,000)
- Coastal Hawks Project CIC - yng Nghonwy y mae’r prosiect hwn. Bydd yn para blwyddyn, a’i nod yw gweddnewid yr hen jyngl gloÿnnod byw ar Aber Afon Conwy yn ganolfan heboga (£103,000)
- Menter y Felin Uchaf Cyf – prosiect dwy flynedd ar Benrhyn Llŷn i greu adnodd parhaol er mwyn hyfforddi pobl leol mewn sgiliau arbenigol ar gyfer datblygu mentrau twristiaeth a chyfleoedd gwirfoddoli gwyrdd a diwylliannol (£204,000)
- Penarth Arts and Crafts Ltd – prosiect dwy flynedd a fydd yn cefnogi Swyddfa Marchnata a Gweithgareddau ar gyfer Pafiliwn Penarth (£199,000)
- Cwmni Buddiannau Cymunedol Strategaeth Dinas y Rhyl – nod y prosiect hwn yw hyrwyddo mwy o ficrofusnesau, hunangyflogaeth ac entrepreneuriaeth yn yr ardal (£300,000)
Bu’r Gronfa Loteri Fawr yn cydweithio â’r gweinyddiaethau datganoledig i weinyddu’r Gronfa hon ar lawr gwlad, a chafodd y penderfyniadau ynghylch pwy fyddai’n cael grantiau eu gwneud gan fyrddau penodol ym mhob gwlad.
Caiff ymgeiswyr ofyn am grantiau o dros £50,000 allan o gyfanswm o £1.15 filiwn sydd ar gael ar gyfer amrywiaeth eang o brosiectau sydd o fudd i gymunedau arfordirol. Disgwylir i swm uwch o £1.45 filiwn fod ar gael y flwyddyn nesaf, a rhagwelir y bydd arian ar gael ar gyfer gwaith cyfalaf mawr yn ogystal â chostau refeniw. Gallai hynny gynnwys tir ac adeiladau a fydd yn hanfodol er mwyn i brosiect lwyddo
Wrth fynd ati i ddethol prosiectau, ystyriwyd sut yr oedd cynlluniau ar gyfer twf economaidd yn mynd i’r afael ag anghenion a blaenoriaethau lleol, nifer y swyddi a fyddai’n cael eu creu, a pha mor gynaliadwy fyddai’r swyddi hynny yn y tymor hir. Mae’r Gronfa Loteri Fawr yn arbennig o awyddus i weld ceisiadau oddi wrth bartneriaethau cryf rhwng nifer o sectorau a fydd yn cydweithio er budd y gymuned.
Bu’r rhaglen yn hynod boblogaidd yn ystod ei blwyddyn gyntaf a chafwyd llawer mwy o geisiadau nag yr oedd arian ar gael ar eu cyfer. Daeth 107 o geisiadau i law yng Nghymru, a gwahoddwyd 13 ohonynt i symud ymlaen i’r ail gam.











