Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Hwb ariannol gan yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer canolfan logisteg yng Ngogledd-orllewin Cymru

Heddiw, cyhoeddodd Alun Davies, y Gweinidog dros Raglenni Ewropeaidd, y bydd £7 miliwn o arian Ewropeaidd yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu canolfan logisteg yng Ngogledd-orllewin Cymru. Bydd hyn yn cefnogi’r diwydiant cludo nwyddau sydd ar gynnydd.
Dydd Iau 28 Mehefin 2012

Bydd Conygar Investment Company PLC yn defnyddio £2.2 miliwn i roi cam cyntaf y prosiect ar waith sef adeiladu canolfan logisteg a dosbarthu ym Mharc Cybi ger Porthladd Caergybi.

Bydd y buddsoddiad hwn yn helpu i adeiladu mannau gweithio o ansawdd uchel, gan gynnwys dwy storfa a dau adeilad fydd yn gartref i swyddfeydd. Bydd hefyd yn helpu i ddatblygu’r porthladd fel prif derfynell cludo nwyddau Prydain sy ’n gwasanaethu Dulyn ac Iwerddon. Bydd swyddi n cael eu creu ar y safle hefyd.

Dywedodd Alun Davies, y Dirprwy Weinidog Rhaglenni Ewropeaidd:

"Mae pwysigrwydd strategol i’r safle hwn a bydd yn gatalydd ar gyfer buddsoddiad a swyddi yn economi’r rhanbarth yn y dyfodol. Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu’r seilwaith cywir er mwyn annog cwmnïau i fuddsoddi a busnesau i dyfu yn yr ardal. Rwy’n falch iawn ein bod wedi gallu cefnogi’r fenter hon gydag arian Ewropeaidd; mae hwn yn hwb go iawn i’r Gogledd-orllewin."

Mae cynlluniau i adeiladu parc lorïau gyferbyn â’r safle hwn hefyd. Bydd hyn yn gwneud yr ardal yn fwy deniadol fyth i gwmnïau gan ei gwneud hi’n bosibl iddyn nhw allu cyrraedd a gwasanaethu’u marchnadoedd yn rhwydd. Yn ogystal, mae’r planiau hyn yn cyd-fynd â’r cynlluniau i adfywio Ynys Môn ac mae Parc Cybi yn un o’r safleoedd sydd wedi cael ei glustnodi ar ei ddatblygu fel rhan o statws newydd yr Ynys fel Ardal Fenter.

Dywedodd Cyfarwyddwr Conygar, Peter Batchelor:

"Rydym yn falch iawn ein bod wedi llwyddo i gael cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y ganolfan hon. Mae galw mawr amdani a bydd yn gwella Porthladd Caergybi ac yn creu amrywiaeth o swyddi newydd hefyd. Yn ogystal â’n buddsoddiad sylweddol ni, gyda’r arian hwn gan yr UE, byddwn yn gallu bwrw ‘mlaen yn hyderus er gwaethaf y sefyllfa economaidd anodd."

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

WEFO

Tagiau

Busnes a'r economi 28 Mehefin 2012 Yr economi Y Gogledd
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i