Skip to content

Bil Safonau a Threfn Ysgolion (Cymru)

Dolenni perthnasol

Bwriedir y bydd y cynigion hyn yn ffurfio Bil Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) a gaiff ei gyflwyno yn 2012.
Heddiw, mae Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg, wedi gosod Bil i godi safonau mewn ysgolion ac i leihau cymhlethdod a biwrocratiaeth yn y system addysg yng Nghymru.
Cyflwynwyd y Bil yma gan y Gweinidog dros Addysg a Sgiliau ar 23 Ebrill 2012.

Beth yw diben y Bil?

Mae'r Bil yn amlinellu cynigion a fydd yn cryfhau safonau mewn ysgolion, yn arwain at wneud mwy o benderfyniadau'n lleol ac yn lleihau cymhlethdod.

Beth yw manteision y Bil?

Bydd y Bil yn:

  • darparu proses gliriach ar gyfer ymyrryd mewn ysgolion ac ar gyfer gwella ysgolion drwy gyflwyno canllawiau statudol.
  • diwygio'r broses statudol ar gyfer trefniadaeth ysgolion fel y bo penderfyniadau'n cael eu gwneud yn lleol pryd bynnag y bo modd.
  • diddymu’r gofyniad i Gyrff Llywodraethu gynnal Cyfarfodydd Blynyddol Rhieni a chyflwyno hawl newydd i rieni alw cyfarfodydd gyda Chyrff Llywodraethu Ysgolion.
  • rhoi mwy o hyblygrwydd i awdurdodau lleol ac ysgolion o ran prisiau prydau ysgol.
  • prif ffrydio sawl rhaglen a ariennir gan grant er mwyn symleiddio'r prosesau presennol.
  • gwneud awdurdodau lleol yn atebol am gynllunio'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg drwy roi sail statudol i Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg.

Ble gallaf i gael mwy o wybodaeth?

Mae'r Bil a'r papur sy'n cynnwys yr ymatebion i'r ymgynghoriad ar gael ar yr ochr dde drwy 'Ddolenni Perthnasol'.

Gallwch weld manylion am hynt y Bil ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru.