Skip to content

Y Bil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru)

Cyflwynodd y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau y Bil hwn ar 28 Tachwedd 2011.

Beth yw diben y Bil?

Deddfau sy’n cael eu gwneud gan gorff, megis awdurdod lleol, i ymdrin â phroblemau lleol, yw is-ddeddfau. 

Mae’r Bil hwn:

  • yn cyflwyno gweithdrefn amgen i’r awdurdodau perthnasol ei dilyn wrth wneud is-ddeddfau yng Nghymru, heb yr angen am gadarnhad gan Weinidogion Cymru.
  • yn cadw ac yn diwygio’r broses gadarnhau ar gyfer rhai mathau o is-ddeddfau.
  • yn cynnig dull amgen, opsiynol o orfodi drwy hysbysiadau cosb benodedig.
  • yn cydgrynhoi ac yn addasu'r ddarpariaeth gyfredol ar gyfer is-ddeddfau yn Neddf Llywodraeth Leol 1972.

Beth yw manteision y Bil?

Bydd y Bil yn grymuso’r awdurdodau perthnasol i gymryd cyfrifoldeb llawn am eu cyfreithiau lleol, gan wella ansawdd y gwasanaethau y maent yn eu darparu i’w cymunedau.

Pan fo hynny’n berthnasol, ni fydd yn rhaid i Weinidogion Cymru gadarnhau is-ddeddfau o hyn ymlaen. Bydd hyn yn lleihau biwrocratiaeth, yn meithrin mwy o berchnogaeth dros ddeddfau lleol ac yn helpu i sicrhau bod is-ddeddfau yn ddull effeithiol o ymdrin â materion lleol.

Bydd gofyn cael cadarnhad Gweinidogion Cymru o hyd ar gyfer rhai is-ddeddfau a allai fod yn ddadleuol, ar fynediad i gefn gwlad er enghraifft.

Bydd y Bil hefyd yn cynnig y dewis i’r awdurdodau perthnasol o ddefnyddio hysbysiadau cosb benodedig fel dull gorfodi yn hytrach na’r Llysoedd Ynadon. Bydd hyn yn arbed amser ac yn lleihau biwrocratiaeth.

Ble gallaf i gael mwy o wybodaeth?

Gallwch weld manylion am hynt y Bil ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru.