Skip to content

Rhaglen Ddeddfwriaethol 2011 - 2012

Prif Weinidog Cymru sy’n cyhoeddi Rhaglen Ddeddfwriaethol Cymru ar ôl ethol Llywodraeth newydd Cymru.

Mae ei blaenoriaethau a’i dyheadau deddfwriaethol wedi’u hamlinellu ar gyfer ei thymor o bum mlynedd a byddant yn cael eu diweddaru’n flynyddol.

Mae’r rhaglen yn cynnwys y ddeddfwriaeth sy’n cael ei datblygu a’i chynnig gan Lywodraeth Cymru er mwyn helpu i gyflawni  rhaglen y Llywodraeth. Mae’n cynnwys Biliau’r Cynulliad, ynghyd â Phapurau Gwyn a Biliau Drafft at ddibenion ymgynghori. 
 
Caiff y Rhaglen Ddeddfwriaethol ei hamlinellu mewn datganiad blynyddol gan y Prif Weinidog, ar gael ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Ymhlith y meysydd y bydd y Biliau a gyhoeddwyd gan Brif Weinidog Cymru ar 12 Gorffennaf yn mynd i’r afael â hwy y mae:

  • Gwneud i awdurdodau lleol gydweithio ymhellach wrth ddarparu gwasanaethau.
  • Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd newydd er mwyn gwella diogelwch bwyd a rhoi gwybodaeth sy’n hawdd ei deall i gwsmeriaid.
  • Y Bil Rhoi Organau er mwyn creu system o ddewis peidio â rhoi organau.
  • Y Bil Ysgolion a Safonau er mwyn mynd i’r afael ag ysgolion sy’n tangyflawni.
  • Diwygio gwasanaethau cymdeithasol er mwyn darparu fframwaith cyfreithiol cydlynol Cymreig ar gyfer bodloni disgwyliadau a demograffeg gymdeithasol sy’n newid.
  • Camau ar gyfer mynd i’r afael â digartrefedd ac anheddau gwag, ynghyd â gwella safonau a hawliau tenantiaid yn y sector rhentu preifat.
  • Cyflwyno dyletswydd ar Awdurdodau Lleol i ddarparu a chynnal llwybrau beicio mewn ardaloedd allweddol.
  • Cydgrynhoi deddfwriaeth bresennol er gwneud y system gynllunio yn fwy tryloyw a sicrhau ei bod o fewn cyrraedd pawb.

Biliau Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd ar gyfer sesiwn 2011/12:

Bil Llywodraeth Lleol (Is-ddeddfau) (Cymru)

Symleiddio gweithdrefnau is-ddeddfau gyda’r nod o feithrin rhagor o gyfrifoldeb am gyfreithiau lleol a pherchenogaeth ohonynt. 

Bil Llywodraeth Leol (Mesurau Cydlafurio) (Cymru)

Cefnogi cydweithio rhwng yr awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill er mwyn gwella’r modd y darperir gwasanaethau.

Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru)

Sefydlu Swyddfa Archwilio Cymru a gwneud darpariaeth ynghylch Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Bil Safonau a Threfn Ysgolion (Cymru)

Gwella safonau a pherfformiad o fewn addysg yng Nghymru. Bydd yn newid trefniadaeth ysgolion, rhoi camau yn eu lle i wella ysgolion, gwneud darpariaeth ar gyfer Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg statudol a symleiddio’r ffordd y caiff rhai grantiau eu talu i Awdurdodau Lleol.

Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru)

Gwneud trefniadau gorfodol ar gyfer mesur iechyd y cyhoedd sy’n syml er mwyn rhoi gwybodaeth hawdd ei chael a’i deall i ddefnyddwyr ar safonau hylendid busnesau bwyd fel y gallant wneud dewisiadau gwell o ran lle y maent yn dymuno bwyta neu brynu bwyd.