Deddfwriaeth
Mae deddfwriaeth yn offeryn allweddol ar gyfer rhoi polisi ar waith yng Nghymru.
Yn sgil cyflwyno Deddf Llywodraeth Cymru 2006 gall Llywodraeth Cynulliad Cymru bellach gyflwyno ei rhaglen ei hun o ddeddfwriaeth. Mae'r rhaglen ddeddfwriaethol hon yn cynnwys:
- Mesurau'r Cynulliad
- Gorchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol.
Mae gennym hefyd fathau eraill ac ychwanegol o ddeddfwriaeth sy'n ein galluogi i fynd i'r afael â pholisïau sef:
- Is-ddeddfwriaeth
- Gorchmynion Trosglwyddo Swyddogaethau
- Mesurau Seneddol y DU.
Bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn craffu ar y ddeddfwriaeth a gyflwynir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru cyn penderfynu os dylid ei chymeradwyo. Nid oes gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru bwerau deddfu llawn ar hyn o bryd, serch hynny mae'r Confensiwn Cymru Gyfan yn paratoi'r ffordd ar gyfer refferendwm posibl ar bwerau deddfu llawn i Gymru.
Dolenni perthnasol
Mae Adroddiadau am Benderfyniadau yn cynnwys y ffeithiau a'r dadansoddiadau y mae Weinidogion wedi seilio ei benderfyniadau.
