Skip to content

Ariannu'r Amgylchedd Hanesyddol

Merch yng Nghastell Gwyn
Mae Cadw yn rhoi grantiau ar gyfer cadw ac atgyweirio'r adeiladau a henebion pwysig.

Cadw yw gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru.

Mae Cadw yn cynnig grantiau i berchenogion ac eraill er mwyn cyfrannu at gost adfer a chynnal a chadw asedau hanesyddol. Rydym yn rhoi blaenoriaeth i'r asedau hynny sydd mewn perygl a phrosiectau a fydd yn ysgogi adfywio. Cynigir grantiau i adeiladau sydd o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig ac ar gyfer gwneud gwaith ar henebion.

Mae Cadw yn aml yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill sy'n ariannu megis Cronfa Dreftadaeth y Loteri. Mae'n cyfrannu at gynlluniau'r awdurdodau lleol i annog adfywio drwy dreftadaeth. Gall grwpiau cymunedol lleol elwa ar grantiau o hyd at £5,000 (ond mae'n rhaid derbyn arian cyfatebol) ar gyfer prosiectau treftadaeth lleol.  

Mae  rhagor o wybodaeth am gynlluniau grant ar gael ar wefan Cadw.

Ewch i wefan  Cadw (dolen allanol)