Skip to content

Grantiau

Dolenni perthnasol

Mae'r Gronfa Buddsoddi i Arbed yn cefnogi ffyrdd newydd o weithio fel y gellir darparu gwasanaethau yn fwy effeithiol ac effeithlon.
Mae grantiau’n bwysig iawn yng Nghymru; mae arian grant penodol yn cael ei ddefnyddio’n helaethach yng Nghymru nag mewn unrhyw ran arall o’r DU.

Mae Llywodraeth Cymru ac arianwyr statudol eraill yn defnyddio grantiau fel ffordd rymus o gyflawni eu hamcanion polisi. Mae grantiau’n galluogi llywodraeth leol a’r sector gwirfoddol i ddarparu gwasanaethau penodol i bobl Cymru. Mae grantiau’n cychwyn ac yn cynnal gweithgarwch economaidd a chymdeithasol sylweddol a hefyd mae cryn amser yn cael ei fuddsoddi ynddynt yn ogystal ag arian y trethdalwr.

Mae Canolfan Ragoriaeth Grantiau wedi’i sefydlu yn Llywodraeth Cymru i sicrhau y bydd dull gweithredu cyson o safon uchel yn cael ei ddefnyddio ar draws pob adran o ran y ffordd y mae grantiau’n cael eu dyrannu, eu rheoli, eu monitro a’u gwerthuso.

Lle bydd grantiau ar gael oddi wrth Lywodraeth Cymru, bydd timau o staff o wahanol adrannau yn gallu cynnig cyngor am geisiadau, ymdrin â cheisiadau a’u prosesu yn unol â’r math o grant dan sylw. Bydd rhai cynlluniau wedi’u cyfyngu i ymgeiswyr penodol megis yr Awdurdodau Lleol, busnesau neu fudiadau gwirfoddol. Bydd cynlluniau eraill yn agored i unigolion, efallai'r rheini y mae angen cymorth ariannol arnynt i barhau i astudio neu sy’n dymuno dechrau busnes. Ewch i wefan Gov.uk am ragor o wybodaeth.

Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau unigol am gynlluniau neu geisiadau grant penodol at y tîm priodol o fewn Llywodraeth Cymru. I gael rhagor o wybodaeth am y cynlluniau grantiau sydd ar gael, dewiswch faes pwnc o'r rhestr ar ochr chwith y dudalen hon.