Cwynion
Os ydych yn teimlo eich bod wedi dioddef oherwydd camweinyddu neu am eich bod wedi derbyn gwasanaeth gwael, efallai y byddwch am gwyno. Mae'r Cod yn disgrifio'r egwyddorion a'r trefniadau rydym yn eu dilyn wrth ystyried cwynion.
Beth y mae'r cod yn ymdrin ag ef
Mae'r Cod yn caniatáu i ni ystyried cwynion sy'n ymwneud â:
- gweinyddu gwael (camweinyddu)
- methu â darparu gwybodaeth rydych wedi gofyn amdani
- methu â darparu gwasanaeth y mae'n ofynnol i ni ei darparu yn ôl y gyfraith neu fethu â darparu gwasanaeth at y safon a ddisgwylir gennym
- methu â bodloni ein Cynllun Iaith Gymraeg.
Beth nad yw'r cod yn ymdrin ag ef
- Cwynion ynghylch penderfyniad lle na chafwyd unrhyw gamweinyddu, hynny yw ni ellir defnyddio'r Cod i gwyno am benderfyniad nad ydych yn cytuno ag ef.
- Cwynion ynghylch materion sy'n dod o dan weithdrefnau eraill.
- Cwynion am faterion yn ymwneud â phersonél.
Os ydych yn credu bod gennych le i gymryd camau cyfreithiol yn ein herbyn, cofiwch fod yn rhaid i chi wneud hyn o fewn amser penodol. Dylech gael cyngor cyfreithiol annibynnol ar hyn. Fodd bynnag, nid yw hyn yn eich rhwystro rhag gwneud cwyn o dan y Cod hwn, cyn belled â bod y Cod yn caniatáu i chi wneud hynny.
Camweinyddu
Fel arfer, mae camweinyddu yn golygu gweinyddu gwael neu weithredu rheolau'n anghywir. Mae'r canlynol yn enghreifftiau o gamweinyddu:
- oedi y gellid bod wedi'i osgoi
- defnyddio gweithdrefnau diffygiol neu fethu â dilyn y gweithdrefnau cywir
- methu â rhoi gwybod i aelod o'r cyhoedd am ei hawl i apelio
- bod yn annheg, a dangos ffafriaeth neu ragfarn
- rhoi cyngor camarweiniol neu annigonol
- gwrthod ateb cwestiynau rhesymol
- bod yn anghwrtais a methu ag ymddiheuro mewn ffordd briodol
- gwneud camgymeriadau wrth ddelio â chais
- peidio â chynnig ffordd briodol o ddatrys mater, os oes un.
Methu â darparu gwybodaeth rydych wedi gofyn amdani
Methu â darparu gwybodaeth rydych wedi gofyn amdani o dan God Ymarfer y Cynulliad Cenedlaethol ar Ganiatáu i'r Cyhoedd Weld Gwybodaeth. Nid oes angen i unrhyw gamweinyddu fod yn gysylltiedig â'r penderfyniad i beidio â datgelu gwybodaeth.
Cymhwyso'r cynllun iaith gymraeg
Mae Cynllun Iaith Llywodraeth y Cynulliad yn cynnwys nifer o ymrwymiadau yn ymwneud â:
- sut y byddwn yn darparu ein gwasanaeth yn y Gymraeg a'r Saesneg
- sut y byddwn yn adlewyrchu'r ffaith bod Cymru'n wlad ddwyieithog yn ein polisïau a'n mentrau.
Cod Ymarfer ar Gwynion (pdf, 198kb)
Atodiad i'r Cod Ymarfer ar Gwynion: Ymdrin â chwynion sy'n ymwneud â mynediad at wybodaeth (MSWord)
Taflen ar Gwynion (pdf, 69kb)
Ffurflen Gwynion Llywodraeth Cynulliad Cymru (pdf, 31kb)
