Skip to content

Ymgynghori

Diwygio Polisi Cynllunio Cymru Pennod 7 Cynnal yr Economi

Rydym am gael eich safbwyntiau am y diwygiad arfaethedig i’r polisi cynllunio cenedlaethol ar faterion economaidd.
Dechrau'r cyfnod ymgynghori: 28/11/2011
Diwedd y cyfnod ymgynghori: 05/03/2012

Rydym yn diwygio’r polisi cynllunio ar gyfer datblygu economaidd i sicrhau ei fod yn gallu gyflawni’n dyheadau ar gyfer adfywio economaidd yng Nghymru.

Mae adroddiad ymchwil Cynllunio ar gyfer Adnewyddu Economaidd Cynaliadwy wedi llywio’r gwaith hwn. Ysgrifennwyd yr adroddiad hwn gan Roger Tym a’i Bartneriaid ar y cyd ag Asbri Planning.

Rydym hefyd am gael eich safbwyntiau am strwythur Nodyn Cyngor Technegol (TAN) newydd y byddwn yn ei gyhoeddi yn 2012. Cynhelir ymgynghoriad manwl arall ar y TAN yn ddiweddarach yn 2012. Yr unig beth rydym am ei wybod ar hyn o bryd yw a ydych yn meddwl bod strwythur y TAN yn briodol.

Mae copi o’r holl ymatebion i'r ymgynghoriad ar ddrafft Pennod 7 i’w cael ar  gryno ddisg pe baech yn gofyn amdanynt.  E-bostiwch planning.division@cymru.gsi.gov.uk.