Skip to content

Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009: Ymgynghoriad ynghylch y Canllawiau Arfaethedig ar Raglen Cymru ar gyfer Gwella ar gyfer yr Awdurdodau Tân ac Achub yng Nghymr

Llywodraeth Cynulliad Cymru

Ymgynghori

Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009: Ymgynghoriad ynghylch y Canllawiau Arfaethedig ar Raglen Cymru ar gyfer Gwella ar gyfer yr Awdurdodau Tân ac Achub yng Nghymr

Mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â'r canllawiau statudol y gall Gweinidogion Cymru eu cyhoeddi ar gyfer Rhan 1 y Mesur o ran yr Awdurdodau Tân ac Achub.
Dechrau'r cyfnod ymgynghori: 02/11/2009
Diwedd y cyfnod ymgynghori: 25/01/2010

Dolenni perthnasol

Ar 28 Ebrill 2009, pasiwyd Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac ar 10 Mehefin 2009, cafodd Gydsyniad Brenhinol.

Rhan 1: Rhaglen Cymru ar gyfer Gwella

Mae hyn yn ymwneud â'r canllawiau statudol y gall Gweinidogion Cymru eu cyhoeddi ar gyfer Rhan 1 y Mesur. Mae'n gwbl berthnasol i'r Awdurdodau Tân ac Achub, sydd wedi'u penodi'n Awdurdodau Gwella Cymru erbyn hyn.  Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru hefyd yn ymgynghori ar wahân ynghylch canllawiau ar gyfer Cynghorau Sir a Chynghorau Bwrdeistref Sirol ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol. Nod y canllawiau yw rhoi cymorth ac arweiniad i'r Awdurdodau Tân ac Achub o ran cyflawni eu dyletswyddau dan Raglen Cymru ar gyfer Gwella. 

Gwefan Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) (dolen allanol)