Penodiadau Cyhoeddus
Mae cael eich penodi i swydd gyhoeddus yn gyfle gwych i chi ddatblygu'ch sgiliau a hefyd yn gyfle i chi roi rhywbeth yn ôl i'ch cymuned. Byddwch yn cwrdd â phobl newydd ac yn cael profiad ymarferol o weithio gyda'r sector cyhoeddus.
Beth yw penodiad cyhoeddus?
Mae penodiad cyhoeddus yn golygu cael eich penodi i bwyllgor sy'n cynghori, yn monitro ac yn gwneud penderfyniadau mewn perthynas â gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru, ar lefel leol neu ar lefel genedlaethol. Mae'r pwyllgorau hyn yn dylanwadu ar bob rhan o fywyd cyhoeddus Cymru, gan gynnwys ysgolion, ysbytai, chwaraeon a'r celfyddydau.
Rydym yn annog pobl o bob rhan o'n cymdeithas i ymgeisio, er mwyn i ni gael syniadau a chyngor o bersbectifau gwahanol. Byddwn yn gwerthfawogi'ch synnwyr cyffredin, eich profiad a'ch ymrwymiad.
Fel penodiad cyhoeddus, byddwch:
- yn eistedd ar bwyllgor yn wirfoddol neu am dâl, gan ddibynnu ar y penodiad;
- yn cynnig hyd at 4 diwrnod y mis o'ch amser;
- yn gwasanaethu am gyfnod o 3-5 mlynedd i ddechrau;
- yn cael hawlio'ch costau teithio a chostau eraill, gan gynnwys unrhyw gostau gofal.
Ar y tudalennau hyn, cewch fanylion am:
- y penodiadau sy'n wag ar hyn o bryd;
- sut i ymgeisio am benodiad cyhoeddus;
- hyfforddiant.
I wybod rhagor am yr uchod, ewch i'r tudalennau sy'n cael eu rhestru ar yr ochr chwith o dan Penodiadau Cyhoeddus.
