Penodiadau Cyhoeddus
Mae sawl ffordd o wneud gwahaniaeth yn eich cymuned. Pa lwybr gymerwch chi?
Ledled Cymru, ar lefel leol a chenedlaethol, sefydlir pwyllgorau i gynnig cyngor annibynnol a darparu gwasanaethau ym mhob maes o fywyd bob dydd, o chwaraeon a chelf, ysgolion ac ysbytai, i’r amgylchedd a thwristiaeth.
Mae penodeion cyhoeddus yn wirfoddolwyr sy’n eistedd ar y pwyllgorau hyn ac yn rhannu eu profiadau a’u gwybodaeth i siapio meysydd o’r fath ar gyfer eu cymuned leol neu hyd yn oed y wlad yn ei chyfanrwydd.
Gall pawb gymryd rhan a gwneud gwahaniaeth. P’un ai a oes gennych ddiddordeb mewn materion lleol, megis eich ysgol leol, neu ddiddordeb cenedlaethol, megis dyfodol y celfyddydau yng Nghymru, ceir ffyrdd i chi allu cymryd rhan.
Rydyn ni eisiau pobl o bob cefndir i ddarparu syniadau a chyngor o safbwyntiau gwahanol. Gwerthfawrogir eich synnwyr cyffredin, eich profiad a’ch ymroddiad.
Budd personol, budd cymunedol
Er bod rhai penodiadau’n galw am wybodaeth arbenigol, yr unig beth y bydd y rhan fwyaf ohonynt yn gofyn amdano yw eich ymrwymiad, eich amser a’ch angerdd dros y pwnc. Mae profiad o gymryd rhan mewn cyfarfodydd ac ysbryd cymunedol brwd yn ddefnyddiol.
Yn gyfnewid am dreulio 3/4 diwrnod y mis yn mynychu cyfarfodydd ac yn darllen papurau, byddwch yn ennill profiad proffesiynol gwerthfawr a byddwch yn dylanwadu ar yr hyn sy’n digwydd yn eich cymuned a hyd yn oed ar draws Cymru.
Mae’r manteision personol eraill yn cynnwys:
- cyfleoedd i ddatblygu sylfaen wybodaeth ehangach
- rhwydweithio
- mwynhad
- datblygiad personol
- profiad ymarferol o weithio yn y sector cyhoeddus
Er y telir cyflog am rai penodiadau ac na thelir cyflog am benodiadau eraill, bydd pawb a benodir yn cael hawlio’u costau teithio.
Byddwch yn un o’r tua 1,000 o benodeion yng Nghymru sy’n gwirfoddoli eu hamser i ddarparu’r gwasanaethau sy’n gwneud gwahaniaeth i’n bywyd bob dydd.
