Skip to content

Recriwtio

Cyfleoedd sydd ar gael ar hyn o bryd, a chanllawiau ymgeisio.

Os ydych chi'n edrych am yrfa newydd, yna mae gweithio gyda Llywodraeth Cymru yn lle da i ddechrau. Mae gennym weledigaeth glir o'r wlad yr ydym am ei chreu ac mae'r gwaith a wnawn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bob agwedd ar fywyd yng Nghymru.

Datganiad ar Gyfleoedd Cyfartal

Ein polisi yw hybu ac integreiddio cyfle cyfartal ym mhob agwedd ar fusnes gan gynnwys penodiadau.

Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ar hyn o bryd gan gynnwys menywod, unigolion o gymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig ac unigolion sydd ag anabledd. Caiff penodiadau eu gwneud yn unol ag egwyddorion cystadleuaeth deg ac agored ac ar sail teilyngdod; nid yw gweithgarwch gwleidyddol yn rhan o’r meini prawf ar gyfer penodi.

Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn gyflogwr y mae pobl yn ei ddewis, ac yn sefydliad y mae pobl am weithio iddo ac yn falch o weithio iddo. Dyna pam ein bod wedi gosod egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Stonewall Cymru logo, Buddsoddwyr Mewn Pobl logo, Cyrraedo y nod Arian logo, Positive About Disabled People logo.