Recriwtio
Llywodraeth Cynulliad Cymru sy'n gyfrifol am lunio a gweithredu polisïau a rhaglenni ar gyfer yr holl faterion sydd wedi eu datganoli i Gymru. Rydym yn cynnig ystod eang o gyfleoedd o ran gyrfa mewn lleoliadau ledled Cymru a thu hwnt, felly beth bynnag sy'n eich diddori a pha gymwysterau bynnag sydd gennych, mae gyrfa i chi.
Swyddi Gwag yn y Gwasanaeth Sifil
Os hoffech gael gwybodaeth am y gwasanaeth sifil a'r cyfleoedd helaeth y mae'n ei gynnig o ran gyrfaoedd, ymwelwch â gwefan Porth Recriwtio'r Gwasanaeth Sifil.
Penodiadau Cyhoeddus
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn penodi aelodau i’r cyrff cyhoeddus a noddir gan y Cynulliad, Cyrff Gweithredol y GIG ac eraill.
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae Comisiwn y Cynulliad yn darparu gwasanaethau penodol ar gyfer Aelodau'r Cynulliad ac yn cynnig ystod o gyfleoedd recriwtio. Os hoffech wybod mwy ymwelwch â thudalennau Swyddi gwefan Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
