Skip to content

Gwahodd Gweinidogion i Ddigwyddiadau neu Ofyn am Gyfarfod

Os ydych am anfon gwahoddiad atynt neu am ofyn i Weinidog am gael cyfarfod, rydym wedi paratoi'r pwyntiau isod ichi a fydd yn eich helpu i fod yn llwyddiannus.

Ym marn y Gweinidogion mae cyfarfod â sefydliadau ac unigolion, a mynd ar ymweliadau ac i ddigwyddiadau ledled Cymru yn rhan allweddol o'u swydd.

Fodd bynnag, gan fod angen hefyd iddynt ddelio â busnes y Llywodraeth, eu pleidiau a'u hetholaethau, bydd galw mawr ar eu dyddiaduron. Yn anffodus mae hynny'n golygu nad oes modd iddynt fynd i bob digwyddiad neu gyfarfod â phawb sydd am eu gweld.

Os ydych am anfon gwahoddiad at Weinidog neu ofyn iddo/iddi am gael cyfarfod, rydym wedi paratoi cyngor a fydd yn eich helpu i fod yn llwyddiannus.

Mae’r cyngor hwn yn ateb cwestiynau megis:

A ddylwn i wahodd Gweinidog?

Meddyliwch yn gyntaf, ai'r Gweinidog yw'r person mwyaf priodol ichi gysylltu ag ef/hi.

Efallai mai Aelod Cynulliad (AC) eich etholaeth fyddai'r person gorau os bydd y digwyddiad neu'r mater yn ymwneud â materion mwy lleol. I weld pwy yw eich AC lleol ewch i wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru (dolen allanol).

Os nad yw’r mater wedi’i ddatganoli, dylech ystyried gwahodd eich Aelod Seneddol (AS).  I gael manylion eich holl gynrychiolwyr etholedig ewch i wefan writetothem (dolen allanol).

Pa Weinidog y dylwn i ei wahodd?

Mae'n bwysig eich bod chi'n gwahodd y Gweinidog sy'n gyfrifol am y maes sy'n briodol i'r digwyddiad dan sylw. Mae meysydd cyfrifoldeb pob Gweinidog i’w gweld ar y tudalennau bywgraffiadol. Dilynwch y dolenni “Aelodau’r Cabinet” neu “Dirprwy Weinidogion” ar ochr chwith y dudalen hon i weld eu bywgraffiadau.

A ddylwn i wahodd mwy nag un Gweinidog?

Pan anfonir un gwahoddiad at fwy nag un Gweinidog, y Gweinidog sy'n gyfrifol am y maes polisi dan sylw fydd, fel arfer, yn anfon ymateb ar ran pob un ohonynt. Felly, ni fydd gwahodd mwy nag un Gweinidog yn ei gwneud yn fwy tebygol y bydd Gweinidog yn derbyn y gwahoddiad.

Faint o rybudd y dylwn i ei roi?

Mae pwysau mawr ar ddyddiaduron Gweinidogion ac maent yn cael eu trefnu wythnosau, fisoedd neu hyd yn oed flynyddoedd ymlaen llaw. Mae'n annhebygol y bydd modd i Weinidog ddod i ddigwyddiad ar fyr rybudd. Felly, rhowch gymaint o rybudd â phosibl. Pan fyddwch yn gwahodd Gweinidog i ddigwyddiad dylech gael ymateb cyn pen 17 diwrnod gwaith. Fel arfer, rydym yn ymateb yn llawer cynt na hyn.

Pryd mae Gweinidogion yn debygol o fod ar gael?

Mae'n annhebygol y bydd y Gweinidogion ar gael brynhawn dydd Mawrth neu ddydd Mercher oherwydd busnes y Llywodraeth a’r Cynulliad.

Er bod dyddiaduron yn cael eu trefnu ymhell ymlaen llaw, busnes y Llywodraeth a’r Cynulliad sy'n cael blaenoriaeth a gall fod disgwyl i Weinidogion newid eu cynlluniau ar fyr rybudd. Mae'n bosibl felly, y bydd Gweinidog yn gorfod canslo ar fyr rybudd. Rydym yn ceisio osgoi sefyllfaoedd o'r fath, lle bynnag y bo hynny’n bosibl, ac rydym yn rhoi gwybodaeth am unrhyw newidiadau cyn gynted â phosibl.

Sut ddylwn i anfon gwahoddiad?

Dylid anfon gwahoddiadau ysgrifenedig (mae negeseuon e-bost yn dderbyniol) a chynnwys cymaint o wybodaeth â phosibl. Os ydych yn ysgrifennu i ofyn am gyfarfod gyda Gweinidog, dylech nodi yn glir beth yw diben y cyfarfod, hy yr hyn yr hoffech ei drafod a disgrifiad byr o'r cefndir.

Os ydych yn gofyn i Weinidog ddod i ddigwyddiad, byddai'r holl wybodaeth ganlynol o gymorth mawr:

  • Dyddiad ac amser posibl
  • Lleoliad (cod post llawn os yw ar gael)
  • Hyd y digwyddiad
  • Diben (ee agoriad swyddogol, cynhadledd (gan gynnwys y thema))
  • Beth hoffech chi i'r Gweinidog ei wneud (ee rhoi araith (gan gynnwys y pwnc), ateb cwestiynau etc)
  • Yr agenda ddrafft os yw ar gael

I ble y dylwn i anfon y gwahoddiad?

Dylech anfon y gwahoddiad at:

Y Gweinidog...
Llywodraeth Cymru
5ed Llawr
Tŷ Hywel
Pierhead Street
Bae Caerdydd
CF99 1NA

Os hoffech anfon y gwahoddiad drwy e-bost, gallwch ddod o hyd i gyfeiriadau e-bost ar gyfer y Gweinidogion ar dudalen bywgraffiadau’r Gweinidogion.