Skip to content

Datganiad Ysgrifenedig - Papur Gwyn – Cynigion ar gyfer Deddfwriaeth ar Deithio Llesol (llwybrau ar gyfer cerdded a beicio)

Dolenni perthnasol

Bwriad y cynigion hyn yw ei gwneud yn bosibl i fwy o bobl gerdded a beicio, a’u galluogi’n gyffredinol i deithio mewn ffyrdd mwy llesol.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Carl Sargeant, Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau


Ar 12 Gorffennaf 2011, cyflwynodd Prif Weinidog Cymru ddatganiad ar Raglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru. Ynddo cyhoeddodd ei fwriad i ddeddfu er mwyn cyflwyno dyletswydd ar Awdurdodau Lleol i ddarparu llwybrau beicio mewn ardaloedd allweddol, a’u cynnal a’u cadw.

Heddiw [9 Mai 2012] rwy’n cyhoeddi Papur Gwyn i geisio barn ar gynigion ar gyfer Bil Teithio Llesol (Cymru). Rwy’n cynnig y bydd y Bil yn ei gwneud yn ddyletswydd ar Awdurdodau Lleol yng Nghymru i: 

  • nodi a mapio’r rhwydwaith o lwybrau sy’n ddiogel ac yn addas ar gyfer cerdded a beicio yn eu hardaloedd 
  • nodi a mapio’r gwelliannau y byddai eu hangen er mwyn creu rhwydwaith cwbl integredig ar gyfer cerdded a beicio a datblygu rhestr o gynlluniau, yn ôl trefn blaenoriaeth, i ddarparu’r rhwydwaith
  • darparu gwell rhwydwaith ar yr amod fod cyllid ar gael, a chan ddilyn y drefn briodol
  • ystyried y posibilrwydd o wella’r ddarpariaeth ar gyfer cerdded a beicio wrth ddatblygu cynlluniau ffyrdd newydd.  

Rwyf hefyd yn ceisio barn ynghylch a ddylid diwygio’r diffiniadau o hawliau tramwy yng Nghymru.

Daw’r ymgynghoriad i ben ar 14 Awst 2012 a byddaf yn ystyried yr ymatebion wrth benderfynu ar ffurf derfynol y ddeddfwriaeth. Disgwyliaf gyflwyno’r Bil i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yng ngwanwyn 2013.