Skip to content

Ysgrifenedig - Pwerau Dyfarnu Gradd Sylfaen

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
John Griffiths, Dirprwy Weinidog dros Sgiliau

Cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru yn ei ddatganiad ar 17 Gorffennaf 2008 ar y flaenraglen ddeddfwriaethol fwriad Llywodraeth Cynulliad Cymru i gyflwyno deddfwriaeth i alluogi Sefydliadau Addysg Bellach yng Nghymru i ddyfarnu graddau sylfaen.

Mae’n dda gennyf fedru rhoi diweddariad ar yr ymrwymiad hwnnw a dweud wrth Aelodau’r Cynulliad fy mod wedi sicrhau bod y cyfryw bwerau yn cael eu cynnwys yn y Mesur Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu a gyflwynwyd yn Nhŷ’r Cyffredin ar 4 Chwefror. A bwrw bod y Mesur yn mynd yn ei flaen, rhagwelaf y caiff y pwerau hyn eu sicrhau ar gyfer Gymru.

Nodiadau

  1. Cyflwynwyd graddau sylfaen yn 2001. Maent yn gymhwyster addysg uwch sy’n gysylltiedig â chyflogaeth, islaw lefel gradd anrhydedd. Caiff cynnwys y cwrs ei lunio ar y cyd â chyflogwyr er mwyn bodloni’r anghenion am sgiliau ar y lefel uwch ar gyfer technegwyr a gweithwyr proffesiynol cysylltiedig. Caiff graddau sylfaen eu cyflwyno drwy gydweithio rhwng cyflogwyr, sefydliadau addysg uwch a sefydliadau addysg bellach. Mae dysgu seiliedig ar waith yn aml yn rhan allweddol o gyrsiau o’r fath.
  2. Bydd y Mesur Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu yn diwygio addysg, hyfforddiant a phrentisiaethau ar gyfer pobl ifanc ac oedolion; yn rhoi pwerau newydd i gryfhau ymddiriedolaethau plant; yn gwella safonau mewn ysgolion ac yn rhoi mwy o hyder mewn cymwysterau.
  3. Bydd y Mesur yn cynnwys pwerau arfaethedig ar gyfer Cymru mewn perthynas â phrentisiaethau; addysg troseddwyr ifanc; pwerau Gweinidogion Cymru i reoleiddio cymwysterau; y gallu i weithwyr ofyn am amser i ffwrdd i hyfforddi a phwerau i orfodi cydymffurfio â Dogfen Cyflogau ac Amodau Athrawon Ysgol.