Skip to content

Ysgrifenedig - Y Nawfed Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Brian Gibbons, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Dyma ein nawfed adroddiad blynyddol ar gydraddoldeb, ac rwy’n fodlon â’r cynnydd a wnaed gennym dros y blynyddoedd.  Yn sgil datganoli, cawsom gyfle i ddatblygu ein hagenda cydraddoldeb ein hun.  Rydym yn gweithio’n agos gyda’r Trydydd Sector a’r sector statudol i wneud hynny.

Yng Nghymru, mae yna faterion, heriau a chyfleoedd penodol.  Rydym yn wlad fach, felly mae’n haws i ni adeiladu cysylltiadau cryf â chymunedau a grwpiau.  Rhaid i ni allu gwrando a bod yn ymwybodol o safbwyntiau er mwyn gwella bywydau’r bobl sy’n byw yma.

Dechreuodd ein gwaith nifer o flynyddoedd yn ôl, pan aethom ati i ganolbwyntio ar faterion cydraddoldeb hiliol yn sgil Ymchwiliad Stephen Lawrence.  Rydym wedi adeiladu ar yr hyn a ddysgwyd gennym, ac erbyn hyn rydym yn ceisio hyrwyddo cydraddoldeb a dileu gwahaniaethu.  Rydym hefyd am sicrhau bod egwyddorion hawliau dynol – tegwch, parch, cydraddoldeb ac urddas – yn gynhenid yn ein gwaith.

Dylem ni ddathlu ein llwyddiannau.  Mae Cymru yn gymdeithas oddefgar, sy’n parchu diwylliannau a chrefyddau gwahanol. Gallwn ddod ynghyd i ddathlu ein diwylliannau a’n credoau ein gilydd –  mae llawer yn gyffredin rhyngom, a rhaid i ni ddathlu’r cyfoeth a ddaw yn sgil yr amrywiaeth honno.

Ond nid wyf o’r farn y dylem fod yn hunanfodlon.  Mae’r ymchwil a wnaed yn ddiweddar gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn dangos nad oes gan bawb barch tuag at eraill.  Rhaid inni barhau â’n hymrwymiad cryf i leihau anghydraddoldeb, i ddileu gwahaniaethu ac i hyrwyddo cysylltiadau da yng Nghymru ac yn y byd ehangach.