Skip to content

Llafar - Ofal Lliniarol

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Edwina Hart, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Lywydd, yr wyf yn ddiolchgar am y cyfle hwn i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am ddatblygiadau mewn gofal lliniarol a diwedd oes. Gwn fod hyn yn bwnc pwysig y mae Aelodau’n cymryd diddordeb agos ynddo. Cawsom ddadl fuddiol ar y mater yma ym Mehefin, pryd yr addewais sicrhau y câi’r Cynulliad bob gwybodaeth am y datblygiadau diweddaraf.

Mae gofal lliniarol a diwedd oes wedi cael cryn sylw mewn blynyddoedd diweddar. Ers 2007, mae adolygiad polisi dan arweiniad Viv Sugar, cadeirydd Llais Defnyddwyr Cymru, wedi helpu Llywodraeth y Cynulliad i sefydlu elfennau craidd gwasanaeth gofal lliniarol i oedolion a phlant a modd i’r gwasanaeth allu dangos ansawdd. Wedyn, sefydlwyd bwrdd gweithredu gofal lliniarol, dan arweiniad y Farwnes Finlay, i sicrhau y gweithredir argymhellion adroddiad Sugar, er mwyn darparu mynediad tecach at ofal lliniarol a diwedd oes o ansawdd uchel ledled Cymru.

Ers hynny, gwelwyd gwelliannau sylweddol yn narpariaeth y gwasanaeth, gyda holl argymhellion adroddiad Sugar naill ai wedi’u cwblhau neu ar droed i ryw raddau, rhai ohonynt o flaen yr amserlenni a bennwyd yn yr adroddiad. Mae’r rhain yn cynnwys gwasanaethau dan arweiniad ymgynghorwyr ledled Cymru; datblygu gweithio saith diwrnod arbenigol gan nyrsys clinigol; datblygu fformiwla ariannu gwasanaethau craidd i benderfynu sut i ddosrannu cyllid gofal lliniarol canolog; sefydlu gwasanaeth cyngor 24 awr ar gyfer gwasanaethau oedolion a phlant; a datblygu ymhellach systemau technoleg gwybodaeth cyfredol ar gyfer gofal lliniarol i oedolion a sefydlu system TG ar gyfer gofal lliniarol i blant. Mae’n dda gennyf adrodd bod Viv Sugar wedi cytuno i ymgymryd ag adolygiad anffurfiol o waith y bwrdd gweithredu gofal lliniarol er mwyn rhoi sicrwydd bod y cyfeiriad teithio a bennir ganddo’n cyd-fynd â gofynion ei hadroddiad gwreiddiol.

Fel y gŵyr Aelodau, mae Llywodraeth y Cynulliad wedi darparu cyllid canolog rheolaidd ar gyfer gofal lliniarol a diwedd oes. Yn 2009-10, mae’r cyllid hwn wedi cynyddu i £4 miliwn ac wedi’i ddyrannu’n unol ag argymhellion y bwrdd gweithredu gofal lliniarol ar gyfer ariannu. Mae cytundebau ariannu tair blynedd wedi’u gwneud gyda 15 o’r 18 hosbis, sy’n cael cyfran o’r cyllid rheolaidd o £2 filiwn ar gyfer gofal lliniarol. Mae’r bwrdd gweithredu’n gweithio gyda gweddill yr hosbisau i wneud eu cytundebau cyllid terfynol. Mae’r cytundebau hyn yn sicrhau y caiff hosbisau dâl priodol am y gwasanaethau clinigol a ddarparant ar ran y GIG. Gofyniad sylfaenol yw y caiff eu gwasanaethau eu harwain gan ymgynghorwyr, a dyna beth y mae’r bwrdd gweithredu wedi ceisio’i sefydlu. Mae gan yr ymgynghorwyr hyn i gyd bellach gontractau gyda’r GIG, gan ddarparu’r sicrwydd ansawdd y mae arnom ei eisiau.

Er y bydd y trefniadau ariannu’n destun adolygiad bob blwyddyn, maent yn pennu’r isafswm cyllid a gaiff hosbisau yn y blynyddoedd a ddaw. Mae hyn yn caniatáu i hosbisau gynllunio’u gwasanaethau gan wybod y bydd cyllid rheolaidd penodol ar gyfer y gwasanaethau clinigol a ddarparant. Ar gyfer y gwasanaethau ychwanegol hynny y bydd hosbisau’n dymuno’u darparu, byddant yn gallu cynllunio’n briodol fel rhan o’u proses godi arian.

O ran cyllid ‘Cymru’n Un’ o £2 filiwn yn 2009-10, mae amrediad o brosiectau ar droed ar lefel byrddau iechyd lleol unigol ac ar lefel Cymru gyfan i lenwi bylchau yn y gwasanaeth ac i sicrhau mynediad tecach at ofal lliniarol a diwedd oes. Mae’r rhain yn cynnwys cefnogaeth i arbenigwyr nyrsio clinigol saith diwrnod yr wythnos, hyfforddiant i nyrsys gofal lliniarol arbenigol i blant, offer TG i gefnogi gofynion gwybodaeth a data gofal lliniarol, sesiynau i weithwyr iechyd proffesiynol cysylltiedig, cyfle i gleifion werthuso gwasanaethau, asesiad cwmpasu profedigaeth plant, sefydlu cerdyn i’w ddal gan gleifion, ac addysgu staff gofal sylfaenol, gan gynnwys staff mewn cartrefi nyrsio. Yr wyf yn sicr y bydd y swm sylweddol o waith sydd eisoes wedi’i wneud, yn ogystal â’r gwaith sydd ar droed gan y bwrdd gweithredu mewn cydweithrediad agos â’r GIG a hosbisau, yn gwella ansawdd a darpariaeth gofal lliniarol a diwedd oes ledled Cymru.

Ymwelodd y Farwnes Finlay ac aelodau’r bwrdd gweithredu gofal lliniarol â phob darparwr hosbis yng Nghymru yn ystod Ionawr 2009. Rhoddodd yr ymweliadau hynny gyfle i siarad â thimau ac ymddiriedolwyr hosbisau, ac i weld darpariaeth y gwasanaeth drostynt eu hunain. Galluogodd hynny y bwrdd i ddeall sut y gellir cyflenwi gwasanaethau o ansawdd da i ateb anghenion cymunedau iechyd sydd ag amrediad o broblemau logistaidd i’w goresgyn. Yn dilyn hynny, cynigiwyd cyfle i bob darparwr hosbis gwrdd â’r farwnes ac aelodau eraill y bwrdd i drafod y trefniadau ariannu a oedd yn cael eu sefydlu. Yn ystod Gorffennaf 2009, gwnaeth y Farwnes Finlay ail gylch o ymweliadau gwasanaeth yn y Canolbarth a’r De, gan gynnwys, y tro yma, holl ddarparwyr gofal lliniarol y sector statudol, yn cynnwys detholiad o bractisau meddygon teulu ym Mhowys a hosbisau gwirfoddol yn Lloegr sy’n darparu gwasanaethau i drigolion Cymru. Mae ymweliad tebyg â’r Gogledd yn cael ei gynllunio ar hyn o bryd ac fe’i cwblheir erbyn Rhagfyr 2009.

Hwn fydd y gwaith mwyaf cynhwysfawr gyda darparwyr gofal lliniarol hyd yma ac mae’n rhoi dealltwriaeth hollbwysig o’r ffordd y dylid ffurfio gwasanaethau’r dyfodol. Mae’n hysbysu dyraniad cyllid canolog gofal lliniarol i ateb anghenion pobl sydd ag angen gofal lliniarol a diwedd oes drwy Gymru gyfan. Mae fy natganiad heddiw’n cynnig blas o waith parhaus y bwrdd gweithredu. Efallai y bydd llawer ohonoch yn dymuno cael mwy o wybodaeth am yr hyn y mae’r gwaith hwnnw’n ei olygu a sut y bydd o fudd i’ch etholwyr. I’r perwyl hwnnw, yr wyf wedi gofyn i’r Farwnes Finlay, ar ran y bwrdd gweithredu gofal lliniarol, gynnal sesiwn briffio agored i’r holl Aelodau. Mae hon wedi’i threfnu ar gyfer 13 Hydref a byddaf yn ysgrifennu at Aelodau gyda’r manylion cyn bo hir.