Mae awdurdodau lleol yn darparu amrywiaeth o wasanaethau cymdeithasol amhreswyl, gan gynnwys gofal cartref, gofal dydd, trafnidiaeth i ofal dydd a phrydau bwyd. Yn 2007-08, derbyniodd 66,000 o oedolion yng Nghymru wasanaethau cymdeithasol yn y gymuned. Mae’r sawl sydd yn dibynnu ar y gwasanaethau hyn ymysg aelodau mwyaf agored i niwed ein cymdeithas a hebddynt, byddai ansawdd eu bywydau yn dlotach. Mae gan bob awdurdod bolisi o godi tâl am y gwasanaethau hyn. Fel canlyniad i amryw o fesurau diogelu, mae’r rhan fwyaf o bobl yn eu derbyn yn rhad ac am ddim, ond, yn 2007-08, codwyd tâl ar 14,000 o ddefnyddwyr. Yn amlwg, mae angen sicrhau bod y sawl y codir tâl arnynt yn cael eu trin yn deg a chydradd lle bynnag y maent yn byw, fel bod y taliadau’n cael eu codi mewn modd gweddol o gyson ledled Cymru.
Ddoe, cyflwynais y Mesur Arfaethedig ynghylch Codi Ffioedd am Wasanaethau Gofal Cymdeithasol (Cymru) i wneud hyn. Yr oedd memorandwm esboniadol a datganiad ysgrifenedig gydag ef. Heddiw, yr wyf yn falch o roi’r Mesur arfaethedig gerbron y Cynulliad i’w ystyried a chyhoeddi datganiad polisi am ein bwriadau ar gyfer diwygio, a ddisgrifiaf yn fyr. Cafwyd cynnydd yn y blynyddoedd diwethaf o ran dylanwadu ar bolisïau awdurdodau ar godi tâl. Yn 2002, cyhoeddasom arweiniad ar arferion da i helpu awdurdodau a oedd wedi penderfynu codi tâl i ddyfeisio polisïau teg a rhesymol ar gyfer codi tâl. Gwnaethom hefyd gyflwyno elfennau allweddol o’r arweiniad ar sail statudol er mwyn rhoi diogelwch ariannol i ddefnyddwyr gwasanaethau sydd ar incwm isel a sicrhau bod gan y rheini y codwyd tâl arnynt lefel incwm warantedig ar ôl codi tâl arnynt. Yn 2007, gwnaethom ymestyn y mesurau diogelu hynny. Er hynny, mae gwahaniaethau mawr o hyd: mae’r amrediad o wasanaethau y codir tâl amdanynt, y mathau o ddefnyddwyr y codir tâl arnynt, yr asesiadau ariannol a wneir a lefel y taliadau a osodir yn amrywio rhwng awdurdodau. Cadarnhawyd hynny gan yr ymchwil annibynnol a gyflawnwyd er mwyn datblygu’r Mesur arfaethedig. Gallai’r driniaeth anghyfartal hon o ddefnyddwyr fod yn annheg ac yn anghydradd ac mae’n cadarnhau ein bod yn iawn i ddynodi hwn yn fater y mae angen deddfu pellach arno.
Mae’r Mesur arfaethedig yn ceisio delio â’r gwahaniaethau hyn drwy sefydlu cyfundrefn ddeddfwriaethol newydd a fydd yn caniatáu i Weinidogion Cymru gyflwyno rheoliadau ac arweiniad i sicrhau mwy o gysondeb lle y mae awdurdodau’n penderfynu codi tâl am wasanaethau cymdeithasol amhreswyl. Bydd hyn yn ein galluogi i roi system ar waith sy’n deg â’r holl grwpiau o gleientiaid, yn haws ei deall, yn gosteffeithiol wrth ei gweinyddu ac yn ysgafnhau’r baich o daliadau ar ysgwyddau defnyddwyr gwasanaethau. Bydd y Mesur arfaethedig yn diwygio’r ddeddfwriaeth bresennol i wneud darpariaeth annibynnol sy’n llywodraethu’r broses o godi tâl am y gwasanaethau hyn yng Nghymru. Bydd yn cynnig mwy o gysondeb, drwy reoliadau, ynghylch y mathau o wasanaethau y ceir codi tâl amdanynt, y grwpiau o gleientiaid y ceir codi tâl arnynt, y broses asesu ariannol, y ffi safonol neu’r ffi uchaf y ceir ei chodi, a’r modd y mae awdurdodau’n adolygu taliadau. Bydd awdurdodau’n dal i allu gosod ffioedd y credant eu bod yn rhesymol.
Fodd bynnag, bydd cyfyngiadau manwl penodol ar y disgresiwn hwn, a nodir mewn rheoliadau. Ni fydd awdurdodau’n gorfod codi tâl a byddant yn dal i allu penderfynu peidio â chodi tâl o gwbl, neu godi tâl sy’n llai nag unrhyw ofyniad yn y ddeddfwriaeth. Bydd y Mesur arfaethedig yn rhwymo awdurdodau i ddarparu gwybodaeth am y gwasanaethau y maent yn codi tâl amdanynt, eu ffioedd safonol a phrofion modd. Os bydd awdurdod yn penderfynu gosod ffi, bydd yn ofynnol iddo roi gwybodaeth i’r defnyddiwr am y ffi arfaethedig, sut y cafodd ei chyfrifo a sut y gellir ei hadolygu. Er bod rhai awdurdodau eisoes yn darparu gwybodaeth o’r fath, bydd hyn yn gorfodi arferion da ac yn darparu dull clir a chyson i sicrhau bod defnyddwyr neu ddarpar ddefnyddwyr wedi eu hysbysu’n llawn.
Y llynedd sefydlais grŵp o randdeiliaid allweddol i’m cynghori ar yr opsiynau i’w hystyried wrth ddatblygu’r Mesur arfaethedig. Yr oedd y grŵp hwnnw’n cynnwys cynrychiolaeth eang o blith defnyddwyr, darparwyr a llywodraeth leol. Yr agweddau ar godi tâl y mae’r Mesur arfaethedig yn ceisio delio â hwy yw’r rheini a nodwyd gan y grŵp fel rhan o’r gwaith ardderchog a wnaeth.
Sylweddolaf y bydd diddordeb ym manylion ein bwriadau ar gyfer diwygio. Ein bwriad yw ceisio cyflwyno mwy o gysondeb yn raddol. Y cam pwysig cyntaf fydd sefydlu cyfundrefn newydd a fydd yn cyflwyno mwy o gysondeb. Yr ail, gan gymryd y cytunir ar y Mesur arfaethedig, fyddai gweithredu ar becyn gwella camau cyntaf o Ebrill 2011. Mae’r pecyn yn ystyried y cyngor a gefais gan y grŵp rhanddeiliaid, a bydd yn golygu cyflwyno rheoliadau i wneud elfennau statudol yr arweiniad gorfodol presennol yn orfodol, i bennu ffi wythnosol uchaf o £50, i fynnu bod awdurdodau’n llwyr ddiystyru lwfans gweini cyson a lwfans anabledd difrifol wrth asesu taliadau, i wahardd awdurdodau rhag codi tâl am gludiant i ganolfannau dydd, ac i fynnu bod awdurdodau’n cyflwyno gweithdrefn i adolygu ffioedd.
Credaf fod y pecyn hwn a’r darpariaethau ar gyfer gwybodaeth y cyfeiriais atynt yn gynharach yn mynd at wraidd yr ymdrech i ddelio ag anghysondeb drwy gyflwyno ffi uchaf gyffredinol am wasanaethau, gan dargedu mesurau diogelu ariannol penodol yr un pryd. Byddai Llywodraethau Cynulliad y dyfodol yn gallu adeiladu ar y sylfaen hon.
Gan gymryd y cytunir ar y Mesur arfaethedig, byddai’r rheoliadau sy’n ofynnol i weithredu ar ein pecyn arfaethedig yn destun ymgysylltu â rhanddeiliaid, ymgynghori ac asesiad llawn o’r effaith. Byddai hynny’n cynnwys ystyried y costau cysylltiedig a’r trefniadau ariannu. Yr wyf yn rhoi datganiad polisi heddiw i Aelodau a rhanddeiliaid sy’n egluro’r cyd-destun lle’r ydym yn cynnig y Mesur arfaethedig, a’r pecyn diwygio y bwriadwn ei roi ar waith.
Rhaid inni beidio ag anghofio am y defnyddwyr gwasanaethau hynny y codir tâl arnynt am y gwasanaethau hyn, sydd ymhlith yr aelodau o gymdeithas sy’n fwyaf agored i niwed. Bydd y Mesur arfaethedig yn gwella’r broses codi tâl, gan helpu i hyrwyddo eu gallu i fyw’n annibynnol yn y gymuned er mwyn gwella eu hansawdd byw.
Cymeradwyaf y Mesur arfaethedig ichi ac edrychaf ymlaen at weld y cyfraniad cadarnhaol a geir drwy broses craffu’r Cynulliad wrth inni ymchwilio i’r materion allweddol hyn.