Ieuan Wyn Jones, y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Mae’n bleser gennyf gyflwyno i’r Cynulliad Cenedlaethol strategaeth cludo nwyddau Cymru y prynhawn yma.
Yn gynharach y mis hwn, cyhoeddais 'Cysylltu Cymru’, sef strategaeth drafnidiaeth Llywodraeth y Cynulliad. Nod y strategaeth hon yw ymdrin â heriau cynaliadwyedd a dod â phob rhan o Gymru ynghyd, yn unol â’r ymrwymiad a wnaed yn ein rhaglen lywodraethu, 'Cymru’n Un’. Yr ydym yn cymryd cam pellach ymlaen heddiw, drwy amlinellu mewn rhagor o fanylder y goblygiadau ar gyfer cludo nwyddau.
Mae system drafnidiaeth o’r radd flaenaf, ar gyfer teithwyr a nwyddau fel ei gilydd, yn hanfodol er mwyn sicrhau ffyniant economaidd. Mae hefyd yn allweddol ar gyfer sicrhau gwir gyfiawnder cymdeithasol ac ar gyfer galluogi pawb i fanteisio ar y ddarpariaeth sydd ar gael. Mae cludo nwyddau yn allweddol ar gyfer sawl agwedd ar fywyd dyddiol, gan gynnwys cyswllt allweddol busnesau â chwsmeriaid a chyflenwyr, a chyflenwi bwyd a nwyddau ar gyfer defnyddwyr.
Yr ydym yn amcangyfrif bod gweithgareddau cludo nwyddau a gweithgareddau logisteg yn cyfrif am hyd at 7 y cant o gyflogaeth yng Nghymru—gyda thua 2,400 o gwmnïau logisteg a 7,400 o weithleoedd, sydd rhyngddynt yn cyfrannu tua £2.5 biliwn y flwyddyn i economi Cymru. Serch hynny, mae’n rhaid i ni hefyd gydnabod y gall gweithgareddau cludo nwyddau gael effaith fawr ar ein hamgylchedd, ein cymunedau a hyd yn oed ein hiechyd. Mae angen amlwg i ddatblygu dull newydd. Golyga’r ffaith bod rhagor o nwyddau yn cael eu cynhyrchu yn y dwyrain pell ac yn nwyrain Ewrop fod ein heconomi a’n rhwydwaith cludo nwyddau yn wynebu nifer o heriau newydd. Mae marchnadoedd a chyfleoedd newydd yn datblygu, ynghyd â newidiadau mewn dulliau dosbarthu nwyddau yn y wlad.
Yn anad dim, golyga her newid yn yr hinsawdd fod gwell cynaliadwyedd amgylcheddol yn gwbl hanfodol. Mae datblygiadau gwleidyddol ar droed yn ogystal, fel yr adolygiad o bolisi porthladdoedd gan yr Adran Drafnidiaeth ac, wrth gwrs, bwerau newydd Llywodraeth Cynulliad Cymru ynghylch cludiant. Golyga hyn oll fod cyhoeddiad heddiw yn amserol iawn.
Ffrwyth cydweithrediad agos rhwng Llywodraeth Cynulliad Cymru, ein partneriaid yn y consortia trafnidiaeth rhanbarthol a rhanddeiliaid eraill yw strategaeth cludo nwyddau Cymru. Mae grŵp cludo nwyddau Cymru wedi creu fforwm ar gyfer trafod materion allweddol a pharatoi’r ddogfen, ac yr wyf yn ddiolchgar i bawb sydd wedi cyfrannu at y dasg bwysig hon. Mae’n bleser gennyf ddweud y cafwyd ymateb cadarnhaol i raddau helaeth yn ystod proses ymgynghori drylwyr.
Y neges gyffredinol oedd bod y strategaeth yn mynd i’r afael â’r prif faterion perthnasol, ac yn cynnig camau priodol ar gyfer ymdrin â hwy. Mae’r strategaeth yn cydnabod bod y diwydiant cludo nwyddau yn ymateb i alw masnachol, ac yn pwysleisio bod yn rhaid ystyried hyn wrth bennu rôl y sector cyhoeddus. Mae’n gosod allan nodau a pholisïau ar lefel uchel ar gyfer cludo nwyddau, ac yn pennu cyfres o gamau penodol ar gyfer eu cyflawni. Mae’n pennu blaenoriaeth ar gyfer bodloni un o amcanion 'Cymru’n Un’ sef symud cludo nwyddau o’r ffyrdd i’r rheilffyrdd—gan sicrhau bod gan gludo nwyddau rôl amlwg wrth hyrwyddo amgylchedd cynaliadwy.
Nod nifer o’r 49 o gamau a amlinellir yn y strategaeth yw lleihau effaith amgylcheddol gyffredinol cludo nwyddau, drwy annog newid moddol a drwy fesurau effeithlonrwydd. Maent yn anelu yn benodol at ostwng lefel allyriadau nwyon tŷ gwydr. Er enghraifft, mae un o’n camau yn cynnig opsiynau ar gyfer hyrwyddo gwasanaeth gwybodaeth uniongyrchol am gludo nwyddau ar gyfer Cymru. Byddai gwasanaeth o’r fath yn darparu gwybodaeth am wahanol opsiynau teithio, ac yn dangos sut y gellid anfon nwyddau ar drên neu ar long, ynghyd â lleihau nifer y lorïau ar y ffyrdd â llwythau gwag. Gallai hyn helpu i leihau nifer y cerbydau ar ein ffyrdd a helpu i ostwng allyriadau.
Y bwriad yw y bydd y strategaeth hon yn cynorthwyo busnesau, cymunedau a’r amgylchedd. Mae’n llywio datblygiad rhwydwaith dibynadwy a chost-effeithiol ar gyfer symud deunyddiau crai, nwyddau a weithgynhyrchwyd a nwyddau ar gyfer defnyddwyr. Mae’n tynnu sylw at gyfyngiadau o ran y rhwydwaith cludo nwyddau presennol a allai gael effaith negyddol ar economi Cymru, a hefyd yn rhagweld newidiadau mewn cadwynau cyflenwi a marchnadoedd ac yn hyrwyddo systemau dosbarthu cynaliadwy. Golyga hyn oll fod angen yn gyntaf integreiddio’r seilwaith cludo nwyddau presennol a’i ddefnyddio yn y ffordd orau, gan ddefnyddio pob dull gwahanol o deithio er lles yr amgylchedd a’r economi.
Mae strategaeth cludo nwyddau Cymru yn rhan o’r broses o roi ar waith ein strategaeth drafnidiaeth gyffredinol, 'Cysylltu Cymru’. O’r herwydd, mae’n canolbwyntio ar egwyddorion, ond yr ydym wedi cynnwys cyfuniad o ddatganiadau ar lefel uchel a chamau ymarferol ar gyfer cyflawni. Y bwriad yn awr yw mynd ati i gyflawni, gyda fframwaith clir ar gyfer llunio cynllun trafnidiaeth cenedlaethol ar gyfer Cymru a chynlluniau manwl ein pedwar consortia rhanbarthol.
Golyga hyn y bydd gofyn i ni weithio gyda’n gilydd mewn partneriaeth, yn arbennig o ystyried natur fasnachol cludo nwyddau. Yr wyf yn credu mai’r ffordd orau o gyflawni hyn yw drwy gyfres o bartneriaethau rhwng Llywodraeth Cynulliad Cymru, y consortia trafnidiaeth rhanbarthol, y diwydiant cludo nwyddau, sefydliadau amgylcheddol ynghyd â sefydliadau ac awdurdodau eraill. Byddwn hefyd yn hyrwyddo partneriaethau ar gyfer gwella safon arferion cludo nwyddau, a all helpu i ddod ag awdurdodau, y gymuned fusnes a rhanddeiliaid eraill ynghyd er mwyn ceisio sicrhau cytundeb ynghylch mesurau fel newid llwybrau ar lefel leol.
Mae datganoli yn golygu y gallwn benderfynu drosom ein hunain y ffordd orau o ddatblygu’r drafnidiaeth sydd ei hangen ar Gymru. Mae strategaeth cludo nwyddau Cymru yn gam arall ymlaen, ac yr wyf yn ei chymeradwyo i’r Cynulliad.