Skip to content

Ysgrifenedig - Adennill Grant Dairygold

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Ieuan Wyn Jones, y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth.

Mae’n bleser gennyf gyhoeddi, yn sgil cymryd camau cyfreithiol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, i £600,000 gael ei adennill oddi wrth Dairygold Food Products mewn perthynas â Grant Prosesu a Marchnata a ddyfarnwyd iddo.

Dyfarnwyd y grant i Dairygold yn 2002 er mwyn ehangu’r llinellau pacio yn ei ffatri pacio caws yn Felinfach, Ceredigion, ond bu’r ffatri gau ym mis Ebrill 2006, a chollwyd 115 o swyddi.

Ers i’r ffatri gau, bu swyddogion Llywodraeth y Cynulliad yn gohebu â’r cwmni er mwyn adennill yr arian, ac rwy’n fodlon iawn â’r canlyniad. Roeddem yn benderfynol y dylid ad-dalu’r arian cyhoeddus hwn am nad oedd y cwmni wedi bodloni amodau’r grant.

Dim ond pan fethodd pob ymgais arall y penderfynwyd cymryd camau cyfreithiol i adennill yr arian, a daeth hyn yn sgil misoedd lawer o gyfathrebu â’r cwmni i geisio datrys y mater.

Mae adennill yr arian hwn yn golygu ein bod wedi tanwario, a bod arian ar gael i Lywodraeth Cynulliad Cymru ei ddefnyddio yn y dyfodol. Bydd y cyllid hwn yn cael ei ddyrannu fel rhan o’r prosesau arferol o osod cyllideb – naill ai fel rhan o’r Cynnig Blynyddol am y Gyllideb neu Gynnig Cyllideb Atodol.

Yn y cyfamser, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymrwymo i helpu i sicrhau cyflogaeth i’r bobl yr effeithiwyd arnynt gan gau gwaith Dairygold. Darparwyd cymorth i Weithgor Dyffryn Aeron, menter di-elw gymunedol, gynnal astudiaeth ddichonoldeb i’r posibilrwydd o gynnal prosesau cynhyrchu yn Nyffryn Aeron sy’n ychwanegu gwerth at fwyd.

Rwy’n awyddus i barhau i weld proseswyr a ffermwyr yng Nghymru yn dod yn fwy cystadleuol, yn ymateb i alw cwsmeriaid ac yn ychwanegu mwy o werth at eu cynnyrch.