Diben y datganiad ysgrifenedig hwn yw rhoi gwybod i Aelodau'r Cynulliad am y Grŵp Prosiect Diogelu Oedolion y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ei sefydlu i adolygu ein polisïau ar ddiogelu oedolion sy'n agored i niwed a'n mesurau i sicrhau bod y polisïau hynny'n parhau yn briodol ac yn gadarn.
At ddiben y datganiad hwn, ystyr "oedolyn sy'n agored i niwed" yw person dros 18 oed sydd, neu a allai fod, angen gwasanaethau iechyd neu ofal cymdeithasol oherwydd anabledd meddyliol neu anabledd arall, oedran neu afiechyd ac sydd, neu a allai fod, yn methu â gofalu am ei hun, yn methu amddiffyn ei hun rhag niwed sylweddol neu'n methu atal eraill rhag camfanteisio'n ddifrifol arno/arni.
Gwaetha'r modd, nid yw cam-drin oedolion sy'n agored i niwed yn broblem newydd, ond nid yw ychwaith yn fater y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei gymryd yn ysgafn. Prin ddechrau y mae ein gwaith i ddeall y broblem a sut i'w atal. Yn ddiweddar mae'r ymwybyddiaeth a'r ddealltwriaeth o'r broblem ar gynnydd, yn rhannol oherwydd bod gwell trefniadau adrodd, cofnodi a monitro ar gael, yn ogystal â'r ffaith bod gwaith ymchwil wedi ei gyhoeddi yn y maes. Hefyd, mae pobl hŷn a'u teuluoedd yn llawer mwy hyderus i ddweud eu dweud am y materion hyn. Mae Adroddiad Blynyddol Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, a fu'n destun dadl yn y Cyfarfod Llawn ym mis Ionawr, yn tynnu sylw at lawer o'r materion hyn.
Oherwydd bod yr ymwybyddiaeth ar gynnydd, bellach mae mwy o bobl yn sylweddoli pa fo achosion o gam-drin yn digwydd mewn lleoliadau gofal, ac yn sylweddoli eu bod yn medru manteisio ar y trefniadau amddiffyn oedolion. Mae mwy o bobl yn gwybod sut i droi at y trefniadau lleol ar gyfer amddiffyn oedolion, ac yn fodlon gwneud hynny, fel bod modd cynnal ymchwiliadau. Mewn blynyddoedd a fu, efallai na fyddai'r achosion hyn wedi cael eu categoreiddio yn achosion o gam-drin oedolion, neu efallai y byddent wedi cael eu datrys drwy drefniadau disgyblu staff neu drwy weithdrefnau cwyno.
Mae gwell dealltwriaeth o faterion amddiffyn oedolion yn arwain, fel y dylai wrth gwrs, at drafodaeth lawnach a mwy agored ynghylch y modd y dylem fynd i'r afael â'r materion hynny.
Nid mater i Lywodraeth Cynulliad Cymru, darparwyr gwasanaethau, awdurdodau statudol, cyrff rheoleiddio a'r heddlu yn unig mo mynd i'r afael â cham-drin oedolion. Mae gan bob unigolyn a phob sefydliad gyfrifoldeb yn amddiffyn oedolion sy'n agored i niwed rhag cael eu cam-drin lle bynnag a phryd bynnag y mae'n digwydd.
Serch hynny, rhaid i Lywodraeth Cynulliad Cymru ganolbwyntio ar y meysydd hynny y mae ganddi bwerau a chyfrifoldebau datganoledig drostynt. Dyma pam, at ddibenion y datganiad hwn, ein bod yn diffinio oedolion sy'n agored i niwed yng nghyd-destun y rheini sydd, neu a allai fod, angen gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
'Mewn Dwylo Diogel' yw ein prif ganllawiau ar amddiffyn oedolion. Mae'r canllawiau statudol hynny yn datgan mai awdurdodau lleol sy'n bennaf gyfrifol am ddatblygu a chyd-drefnu'r trefniadau lleol i amddiffyn oedolion. Wrth gyflawni'r swyddogaeth hon, mae angen i awdurdodau lleol gydweithio'n agos â nifer o asiantaethau, gan gynnwys comisiynwyr a darparwyr iechyd a gwasanaethau cymdeithasol; darparwyr tai gwarchod a thai â chymorth; rheoleiddwyr gwasanaethau; yr heddlu ac asiantaethau eraill sy'n gorfodi'r gyfraith; ac asiantaethau yn y sectorau gwirfoddol a phreifat. Mae trefniadau lleol i amddiffyn oedolion yn eu lle ym mhob rhan o Gymru ers rhai blynyddoedd.
Rydym hefyd wedi cyflwyno mesurau i atgyfnerthu rhagor ar y trefniadau lleol hyn i amddiffyn oedolion. Mae'r awdurdodau lleol wedi penodi cyd-drefnyddion amddiffyn oedolion, mae llawer o hyfforddiant wedi ei gynnal ledled Cymru ac rydym hefyd wedi sefydlu trefniadau monitro. Rydym hefyd wedi defnyddio ein pwerau o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000 i'w gwneud yn ofynnol i rai lleoliadau gofal megis cartrefi gofal, cynlluniau lleoli oedolion, darparwyr gofal cartref ac ysbytai preifat gael eu rheoleiddio gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru neu Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru. Y llynedd, crëwyd Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru i roi golwg fwy integredig inni ar y gwasanaethau, o'r cam comisiynu, drwy'r gwaith cynllunio ar gyfer unigolion, i'r ddarpariaeth ei hun. Rydym wedi cynorthwyo Llywodraeth y DU i ddatblygu a gweithredu mesurau mewn meysydd nad ydynt wedi'u datganoli, megis sefydlu rhestr o bobl sy'n anaddas i weithio ag oedolion sy'n agored i niwed ac sydd o'r herwydd wedi eu gwahardd rhag gwaith o'r fath.
Serch hynny, ni fyddwn yn gorffwys ar ein rhwyfau wrth gyflawni ein cyfrifoldebau o ran amddiffyn oedolion. Mae hi bellach yn adeg addas inni bwyso a mesur y gwaith, wrth i'n dealltwriaeth o'r broblem, a sut i fynd i'r afael ag achosion ohono, wella. Hefyd, mae anghenion pobl sy'n defnyddio gwasanaethau gofal cymdeithasol bellach yn newid - er enghraifft y cynnydd yn nifer y bobl hŷn fwy bregus sy'n derbyn pecynnau gofal cymhleth, a hynny yn aml gan fwy nag un asiantaeth. Rydym felly wedi sefydlu Bwrdd Prosiect Amddiffyn Oedolion, i ystyried a llunio adroddiad ar effeithiolrwydd ein polisïau ar amddiffyn oedolion - gan gynnwys y rhai cyfredol a'r rhai sydd wrthi'n cael eu datblygu - er mwyn sicrhau eu bod yn briodol ac yn gadarn.
Dyma gylch gorchwyl y Grŵp Prosiect Amddiffyn Oedolion newydd hwn:
- Yng ngoleuni'r wybodaeth sy'n dod i'r amlwg yn sgil achosion diweddar yng Nghymru, adolygu effeithiolrwydd y polisïau a'r ddeddfwriaeth bresennol ar amddiffyn oedolion, a pholisïau/deddfwriaethol perthnasol eraill, yn lleihau'r risg bod oedolion yn cael eu cam-drin, ac asesu a llunio adroddiad ar y meysydd hynny lle gellid gwella.
- Adolygu effeithiolrwydd y fframweithiau safonau gofynnol cenedlaethol a'r fframweithiau rheoleiddio o dan y Ddeddf Safonau Gofal , fel y maent yn berthnasol i amddiffyn oedolion, ac asesu a llunio adroddiad ar y meysydd hynny lle gellid gwella.
- Nodi a chraffu ar holl ffrydiau gwaith yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol sydd â'r potensial i wella effeithiolrwydd y trefniadau i amddiffyn oedolion sy'n agored i niwed, gan gynnwys rôl meddygon teulu a staff iechyd cymunedol.
- Adolygu ac asesu'r dystiolaeth bresennol o ran nifer yr achosion o oedolion agored i niwed sy'n cael eu cam-drin, a beth sy'n achosi risg bod oedolion yn cael eu cam-drin, ynghyd â chomisiynu ymchwil bellach yn ôl y gofyn.
- Adolygu'r systemau presennol ar gyfer tynnu sylw at achosion lle mae angen amddiffyn oedolion, a systemau gwybodaeth eraill, ac asesu a llunio adroddiad ar y meysydd lle gellid gwella ar y systemau hyn.
- Asesu a llunio adroddiad ar oblygiadau unrhyw welliannau i'r trefniadau presennol i amddiffyn oedolion sy'n agored i niwed.
- Darparu adroddiadau cynnydd rheolaidd i'r Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
Wrth sefydlu'r Bwrdd Prosiect, rydym wedi ceisio sicrhau bod ganddo aelodau a fydd yn galluogi iddo gyflawni'r tasgau hyn. Dyma aelodaeth y Grŵp Prosiect:
Bob Hudson (Cadeirydd), Cyfarwyddwr Cyfeiriad Strategol a Chynllunio Busnes, AIGC, Llywodraeth Cynulliad Cymru
Mick Collins, Cadeirydd Fforwm Rhanbarthol Dyfed Powys ar Amddiffyn Oedolion
Richard Warrilow, Cadeirydd Fforwm Rhanbarthol De Cymru ar Amddiffyn Oedolion
T Gwyn Jones, Cadeirydd Fforwm Rhanbarthol Gogledd Cymru ar Amddiffyn Oedolion
Liz Majer, Cadeirydd Fforwm Rhanbarthol De-ddwyrain Cymru ar Amddiffyn Oedolion
Cynrychiolydd o Heddlu Gogledd Cymru
Cynrychiolydd o'r Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol
Dr Tony Jewell, Prif Swyddog Meddygol, Llywodraeth Cynulliad Cymru
Rosemary Kennedy, Prif Swyddog Nyrsio, Llywodraeth Cynulliad Cymru
Rob Pickford, Prif Arolygydd, Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru
Steve Milsom, Cyfarwyddwr Dros Dro, Polisi Pobl Hŷn a Gofal Hirdymor, AIGC, Llywodraeth Cynulliad Cymru
Peter Lawler, Cyfarwyddwr Dros Dro, Polisi Iechyd Cymunedol, Gofal Sylfaenol a Gwasanaethau Iechyd, AIGC, Llywodraeth Cynulliad Cymru
Ian Stead, Cyfarwyddwr, Adnoddau Dynol y GIG, AIGC, Llywodraeth Cynulliad Cymru
Dr Peter Higson, Prif Weithredwr, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru
Wrth gynnal y gwaith hwn, rwy'n rhagweld y bydd y Grŵp Prosiect yn ystyried amryw o bolisïau sydd wrthi'n cael eu datblygu neu eu hadolygu. Mae’r rhain yn cynnwys:
- y Canllawiau Statudol drafft newydd ar Ddwyn Sylw Awdurdodau Uwch at Bryderon mewn Cartrefi Gofal;
- y Canllawiau Statudol drafft newydd i awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol ar gomisiynu gwasanaethau;
- ein rhaglen newydd ar 'Urddas a Pharch mewn Gofal' a'r rôl y gallai chwarae yn amddiffyn pobl hŷn rhag cael eu cam-drin; ac
- y mesurau amddiffyn oedolion sy'n rhan o'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol a'r trefniadau rheoleiddio cartrefi gofal, a ph'un a ydynt yn dal yn addas i'r diben ai peidio; ac
- yng ngoleuni canlyniadau'r gwaith ar reoleiddio cartrefi gofal, ystyried a oes angen atgyfnerthu rhagor ar y mesurau amddiffyn oedolion sy'n rhan o'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol a'r trefniadau rheoleiddio gofal cartref a chynlluniau lleoli oedolion.
Rwyf hefyd yn rhagweld y bydd y Bwrdd Prosiect yn ystyried materion eraill fel:
- p'un a ydyw ein canllawiau 'Mewn Dwylo Diogel' a'r trefniadau ar gyfer cynorthwyo i'w gweithredu yn dal yn briodol ac yn gadarn;
- y rôl bosibl y gallai'r Comisiynydd Pobl Hŷn ei chwarae yn amddiffyn pobl hŷn rhag cael eu cam-drin. Hyn gan gydnabod bod y Comisiynydd yn gwbl annibynnol ac y bydd yn penderfynu ar ei hagenda ei hun.
- canlyniadau arolygiad thematig arfaethedig Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru o drefniadau amddiffyn oedolion yr awdurdodau lleol, sydd i'w gynnal yn 2008-09;
- rôl meddygon teulu a staff eraill y GIG sy'n gweithio yn y gymuned (p'un a ydynt yn darparu gwasanaethau uniongyrchol neu ar gontract) yn y trefniadau lleol i amddiffyn oedolion; acy
- rôl y gallai'r Asiantaeth Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Asiantaeth Genedlaethol Arwain ac Arloesi mewn Gofal Iechyd ei gael yn cynorthwyo i gyflawni polisïau a gweithdrefnau lleol effeithiol o ran amddiffyn oedolion;
- cyd-destun y ddeddfwriaeth sylfaenol a'r is-ddeddfwriaeth sy'n berthnasol i Gymru'n unig, a Chymru a Lloegr, er mwyn gweld pa newidiadau y gellid eu hargymell.
Yn ei gyfarfod ar 26 Chwefror, bydd y Grŵp Prosiect Amddiffyn Oedolion yn ystyried hyd a lled ei raglen waith a'i amserlen. Bydd yn adrodd yn ôl i'r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a minnau ar y materion hyn. Byddaf yn rhoi adroddiad i Aelodau'r Cynulliad ar ganlyniadau gwaith y Grŵp pan fydd y gwaith wedi dod i ben yn nes ymlaen yn y flwyddyn.