Skip to content

Ysgrifenedig - Mynediad am Ddim i Waith Haearn Blaenafon

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Rhodri Glyn Thomas, y Gweinidog dros Dreftadaeth

O 21 Mawrth 2008 bydd Llywodraeth y Cynulliad yn cyflwyno mynediad am ddim i Waith Haearn Blaenafon. Ar ben hynny bydd Gwaith Haearn Blaenafon yn dod o dan reolaeth uniongyrchol Cadw, gwasanaeth Amgylchedd Hanesyddol Llywodraeth Cynulliad Cymru, ac mae'n gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol (CBS) Tor-faen ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru (ACC) i ddatblygu a hyrwyddo Tirwedd Ddiwydiannol Safle Treftadaeth y Byd ehangach Blaenafon.

Gan fod mynediad i'r rhan fwyaf o Dirwedd Ddiwydiannol Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon am ddim ar hyn o bryd, mae'r polisi codi ffi yn y Gwaith Haearn yn drysu ymwelwyr, ac mae'n debyg o rwystro ymwelwyr rhag profi a mwynhau cyd-destun hanesyddol llawn yr henebion.

Mae'r penderfyniad hwn yn cefnogi ymrwymiad Llywodraeth y Cynulliad i ddatblygu strategaeth dwristiaeth integredig a sicrhau bod y gwahanol sefydliadau partner twristiaeth yng Nghymru yn cydweithio. Dylai diwylliant a threftadaeth Cymru ddod yn rhan graidd o brofiad ymwelwyr a'n nod yw ei gwneud yn haws i ymwelwyr gael mynediad i'r profiadau hyn a'u gwerthfawrogi.

Mae cynigion yn cael eu hystyried i weithredu ymrwymiad "Cymru'n Un" i adeiladu ar lwyddiant mynediad am ddim i amgueddfeydd ac orielau drwy ganiatáu i bensiynwyr Cymru a phlant Cymru gael mynediad am ddim i safleoedd treftadaeth a ariennir gan y Cynulliad, a byddaf yn gwneud cyhoeddiad yn nes ymlaen eleni.