Skip to content

Ysgrifenedig - Ymgynghoriad – Rhyddhad Ardrethi Busnes Gwell i Fusnesau Bach

Dolenni perthnasol

Mae'r ymgynghoriad hwn yn amlinellu ac yn gwhaodd sylwadau ar y cynigion i ymestyn y ddarpariaeth rhyddhad ardrethi i rai siopau, gofalwyr plant cofrestredig ac undebau credyd.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Brian Gibbons, Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cyhoeddi papur ymgynghori ynglŷn â’i chynigion i wella rhyddhad ardrethi busnes i fusnesau bach ledled Cymru, ac i’w ôl-ddyddio i 1 Ebrill 2008.

Mae tua 37,000 o fusnesau eisoes yn elwa ar y cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach a gyflwynwyd ym mis Ebrill 2007, ac mae’r cynigion hyn yn adlewyrchu ymrwymiad y Llywodraeth yn nogfen Cymru’n Un i gynyddu nifer y busnesau sy’n elwa hyd yn oed yn fwy.

Darperir rhyddhad ardrethi fel a ganlyn:

  1. 25% i safleoedd manwerthu, sy’n cynnwys tafarndai, bwytai, caffes, gorsafoedd petrol, a mannau sy’n gwerthu bwyd parod i’w fwyta oddi ar y safle, sydd â gwerth ardrethol rhwng £5,001 a £6,000. (Mae hyn yn codi trothwy uchaf y gwerth ardrethol, ar gyfer rhyddhad o 25% i’r busnesau hyn, o £5,000 i £6,000).
  2. 50% i warchodwyr plant a darparwyr gofal dydd sydd wedi’u cofrestru o dan Ran XA Deddf Plant 1989, y mae gan eu safleoedd werth ardrethol hyd at £12,000. (Mae hyn yn codi trothwy uchaf y gwerth ardrethol, ar gyfer rhyddhad o 50% i’r busnesau hyn, o £2,000 i £12,000).
  3. 50% i undebau credyd sydd wedi’u cofrestru’n unol â Deddf Undebau Credyd 1979, y mae gan eu safleoedd werth ardrethol hyd at £9,000. (Mae hyn yn codi trothwy uchaf y gwerth ardrethol, ar gyfer rhyddhad o 50% i’r busnesau hyn, o £2,000 i £9,000).

Rhaid bod pob eiddo wedi’u meddiannu’n gyfan gwbl, a heb fod yn gymwys am ryddhad am eu bod yn cael eu defnyddio at ddibenion elusennol neu ddi-elw. Rhaid i safleoedd manwerthu gael eu defnyddio’n gyfan gwbl neu’n bennaf er mwyn gwerthu nwyddau. Bydd perchnogion mwy nag un safle manwerthu neu undeb credyd yn gallu hawlio rhyddhad ar un eiddo yn unig, a bydd ganddynt hawl i ddewis yr eiddo hwn.

Bydd y cynllun, a fydd yn weithredol tan 31 Mawrth 2012, yn lleihau biliau ardrethi o hyd at £700 yn achos safleoedd manwerthu, o £2,100 yn achos undebau credyd ac o £2,800 yn achos darparwyr gofal plant. Bydd yn cynnig cymorth go iawn i’r busnesau hyn ac yn gwneud cyfraniad hanfodol at fywyd ac economi cymunedau lleol ledled Cymru.

Dylid anfon unrhyw sylwadau at LGF1consultations@wales.gsi.gov.uk erbyn 30 Gorffennaf 2008