Skip to content

Y Diwydiant Llaeth yng Nghymru

Carwyn Jones, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad

Mae’r diwydiant llaeth yn wynebu cyfnod llawn her. Nid yw’r ffactorau niferus sy’n gyfrifol am y newidiadau yn y sector llaeth yn unigryw i Gymru. Mae’n bosib mai’r her fwyaf i’r diwydiant fydd addasu ei strwythur fel y gall gystadlu mewn marchnad fyd-eang mewn amgylchedd heb ei rheoleiddio. Er bod nifer y cynhyrchwyr llaeth wedi gostwng ledled Cymru fel mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig, mae cynhyrchu llaeth wedi aros yn gymharol sefydlog. Mae’r gallu i brosesu wedi cael ei resymoli, fel sydd wedi digwydd mewn llawer o sectorau cynhyrchu sylfaenol Bwyd-amaeth. Bydd marchnadoedd arbenigol yn parhau i ddod yn fwy pwysig, ac mewn sawl achos bydd y cynhyrchu yn datblygu o sylfaen bychan.

 

Bydd y newid yn digwydd yn gyflym, ac er mwyn ymateb i’r her rhaid i Gymru gystadlu er mwyn llwyddo mewn amgylchedd rhyngwladol. Dyma rai o brif agweddau’r grymusterau sy’n dylanwadu ar y farchnad: mwy o alw gan gwsmeriaid am lefelau uwch o werth ychwanegol ac arloesi; mwy o ffocws ar ffermio mewn ffyrdd sy’n sensitif yn amgylcheddol; arweiniad ar iechyd a maethiad, a hybu lefelau uchel o les anifeiliaid.

 

Mae pwysau ar brisiau llaeth, ac er nad oes gan Lywodraeth y Cynulliad unrhyw ran i’w chwarae mewn cyd-drafodaethau masnachol, mae’n hanfodol i bawb o fewn y diwydiant gael gwell tryloywder a gwell cyfathrebu ar bob lefel o’r gadwyn gyflenwi.

Mae’r prisiau isel wrth giât y fferm mewn cymhariaeth â’r costau cynhyrchu yn bryder i’r diwydiant yn gyffredinol. A gall fod gwahaniaeth mawr yn y costau cynhyrchu a’r proffidioldeb rhwng y ffermwyr godro lleiaf effeithlon a’r rhai mwyaf effeithlon. Ar gyfartaledd roedd y 25% o ffermwyr oedd â’r gost gynhyrchu isaf yn cynhyrchu llaeth am 12 ceiniog y litr yn llai na’r 25% oedd â’r costau uchaf. Yr her yw i gymaint ag y bo modd o ffermwyr godro berfformio cystal â’r rhai mwyaf effeithlon.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cydnabod bod pris llaeth wrth giât y fferm yn rhy isel i rai busnesau ar hyn o bryd (17.17 ceiniog y litr ym mis Gorffennaf 2006), ac y bydd rhai ohonynt yn gadael y diwydiant. Un o fendithion dadgyplu cefnogaeth Polisi Amaethyddol Cyffredin Ewrop oddi wrth gynhyrchu yw bod rhaid i ffermwyr bellach wneud penderfyniadau ar ddyfodol eu busnesau eu hunain yn ôl y farchnad ac anghenion y defnyddiwr, yn hytrach na ffermio i ddenu cymhorthdal. Mae’r toriadau ym mhrisiau cefnogi’r farchnad llaeth a chynnyrch llaeth yn Ewrop, a gafodd eu cyflwyno yn rhannol oherwydd pwysau gan Sefydliad Masnach y Byd, yn cael eu digolledu gan Daliad Sengl, taliad y bu gan ffermwyr hawl i’w dderbyn ers 2005.       

 

Mae’r diwydiant llaeth yng Nghymru mewn sefyllfa dda i gystadlu mewn marchnad fyd eang sy’n fwy rhydd. O’i blaid y mae’r hinsawdd, trefn gwota llaeth hyblyg, rhai cynhyrchwyr hynod effeithlon, a phrosesyddion sy’n barod i gyflenwi marchnad gyfoethog y Deyrnas Unedig. Mae maint ffermydd, effeithlonrwydd, a chostau cynhyrchu yn cymharu’n ffafriol gydag amodau  partneriaid eraill ledled Ewrop. Mae cynnydd mewn cynhyrchu nwyddau  gwerth ychwanegol uwch a chynnyrch edi ei frandio, ac mae marchnadoedd arbenigol yn cael eu datblygu’n barhaus. Mae arwyddion cadarnhaol fod y diwydiant llaeth yn mynd i’r afael â llawer o’r ffactorau sy’n achosi prisiau isel wrth giât y fferm. Mae arloesi ar gynnydd, mae cynhyrchion newydd sydd wedi cael eu brandio yn cael eu marchnata, a bu newidiadau yn strwythur y diwydiant. Mae’r diwydiant llaeth yng Nghymru wedi cael budd sylweddol o’r Grantiau Prosesu a Marchnata (PMG): ers mis Mai 2001, mae 46 o brosiectau Grantiau Prosesu a Marchnata wedi sicrhau buddsoddiad o dros £36.3 miliwn yn y sector llaeth gyda chyfanswm o £13 miliwn mewn grantiau. Ymhlith y busnesau sydd wedi derbyn y grant mae Hufenfa De Arfon, Aeron Valley Cheese a Rachel’s Dairies.

 

Yn y dyfodol agos mae’n fwriad gan Lywodraeth y Cynulliad gyhoeddi ac ymgynghori ar Gynllun Gweithredu Strategaeth Laeth i’r diwydiant llaeth yng Nghymru. Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn gweithio gyda’r Grŵp Strategaeth Laeth i weithredu’r cynllun. Bydd pob ffactor sy’n effeithio ar y diwydiant llaeth yng Nghymru yn cynnig her a chyfle, a bydd y diwydiant yn ymateb iddynt yn y cynllun strategol arfaethedig. Bydd y rhain yn cynnwys yr angen i wella effeithlonrwydd y gadwyn gyflenwi yn gyffredinol, gwella cyfathrebu effeithiol ar bob lefel, a chydymffurfio gyda rheoliadau amgylcheddol newydd. Mae’n bosib i lawer o’r gwelliannau sydd eu hangen gael eu gwneud trwy gydweithio yn hytrach na thrwy gyd-drafod. 

 

Wedi ystyried holl ymatebion yr ymgynghori, bydd y ddogfen derfynol yn cael ei chyhoeddi a’r penderfyniadau’n cael eu gweithredu. Llywodraeth

Cynulliad Cymru fydd yn rheoli gweithrediad y cynllun gweithredu strategol, a bydd rhaid i amrywiaeth eang o randdeiliaid ar draws y diwydiant gyfranogi’n llawn yn y broses.