Skip to content

Cyllid I Amddiffyn Dyffryn Conwy Rhag Llifogydd

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Carwyn Jones, Y Gweinidog Dros Yr Amgylchedd, Cyllunio A Chefn Gwlad
Yng nghyfarfod Pwyllgor Busnes yr wythnos ddiwethaf, gofynnwyd i mi gyflwyno datganiad ar y penderfyniad i gefnogi’r cynlluniau amddiffyn rhag llifogydd yn Llanrwst, Conwy a Threfriw ac unrhyw gynllun arall i amddiffyn rhag llifogydd sy’n perthyn i’r categori hwnnw. Yn gyntaf, gadewch i mi gadarnhau nad wyf wedi gwneud unrhyw benderfyniad i ohirio unrhyw gynlluniau amddiffyn rhag llifogydd yn Nyffryn Conwy.

Ers y llifogydd difrifol a effeithiodd ar ddalgylch Dyffryn Conwy yn 2004 a 2005, mae’r awdurdod lleol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ac Asiantaeth yr Amgylchedd wedi cydweithio’n agos â phreswylwyr a chymunedau i fynd i’r afael â phroblemau’r dyffryn ac yn wir, mae llawer wedi’i gyflawni’n barod. Cafodd y niwed a achoswyd i’r argloddiau yn ystod y digwyddiad ei atgyweirio fel mater brys yn syth wedi’r llifogydd a buan iawn y dychwelodd y rhwydwaith argloddiau i’w gyflwr fel ag yr oedd cyn y llifogydd. Mae gwaith i liniaru llifogydd o rai o lednentydd Afon Conwy wedi’i gwblhau gan yr awdurdod lleol a bwriedir cynnal gwaith pellach i’w gwblhau erbyn haf 2007. Amcangyfrifir mai cost y gwaith hwn fydd tua £1.1m ac mae darpariaethau wedi’u gwneud ar gyfer y rhan fwyaf o hyn i gael ei ariannu gan gyllidebau amddiffyn rhag llifogydd Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Wedi’r llifogydd, comisiynodd Asiantaeth yr Amgylchedd archwiliad manwl o opsiynau i ddarparu gwell safonau amddiffyn rhag llifogydd trwy’r holl ddyffryn ac mae’r gwaith hwn bellach wedi’i gwblhau. Mae cynllun a ffefrir wedi’i ddewis ac amcangyfrifir y bydd y gost yn fwy na £5m. O ystyried y gost a ragwelir, bydd yn rhaid i’r Asiantaeth gael cymeradwyaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru cyn y gall fynd ati i ddechrau adeiladu ac rwy’n deall bod yr Asiantaeth yn bwriadu cyflwyno manylion i Lywodraeth y Cynulliad yn y flwyddyn newydd. Edrychaf ymlaen at gael gweld y cynigion hynny.

Mae problemau gorlifo’r dyffryn yn rhai helaeth a difrifol ac mae’r rhwydwaith argloddiau presennol yn gymhleth. Mae nifer o’r opsiynau y bu’r Asiantaeth yn eu hystyried i ddatrys y problemau hyn wedi cynnwys cynyddu gorlifo tir amaethyddol er mwyn gwella safonau amddiffyn rhag llifogydd ar gyfer ardaloedd preswyl. Fel y gallwch ddychmygu, mae datblygu a gweithredu atebion o’r fath yn cynnwys cynnal trafodaethau sensitif a oedd yn effeithio ar dirfeddianwyr ac nid oes modd cynnal trafodaethau a dod i benderfyniadau o’r fath dros nos. Rhagwelwyd o’r dechrau, yn amodol ar gynllun dichonadwy yn cael ei nodi, na fyddai gwaith adeiladu yn dechrau cyn 2007/08.

Fel rhan o’r trefniadau amddiffyn rhag llifogydd newydd ar gyfer Cymru a gyflwynwyd ar 1 Ebrill 2006, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru erbyn hyn yn darparu’r rhan fwyaf o’r cyllid ar gyfer gweithgareddau amddiffyn rhag llifogydd yr Asiantaeth ledled Cymru. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi dyrannu tua £26m i’r Asiantaeth i ariannu ei gweithgareddau amddiffyn rhag llifogydd yng Nghymru yn ystod y flwyddyn bresennol a tua £27.5m yw’r gyllideb ddangosol ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Yn amodol ar gadarnhau cyllidebau Llywodraeth Cynulliad Cymru a chael y gymeradwyaeth briodol, mae’r Asiantaeth yn bwriadu dechrau adeiladu cynllun Dyffryn Conwy yn ystod hydref 2007.