Skip to content

Y Gwasanaeth Ocsigen Cartref

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Brian Gibbons, Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanethau Cymdeithasol
Yn dilyn y datganiad ysgrifenedig gan y Cabinet yr wythnos diwethaf, dywedais y byddwn yn adolygu’r sefyllfa, yn nodi’r prif faterion sydd wedi dod i’r amlwg ac yn cyflwyno cynigion i gyflymu'r newid o’r naill system i’r llall. Mae fy swyddogion wedi gofyn i’r Byrddau Iechyd Lleol ddarparu tystiolaeth am yr anawsterau a gafwyd yn lleol – hyd yn hyn, mae tri Bwrdd Iechyd Lleol wedi anfon adroddiadau. Bydd y cofnodion hyn yn cael eu cymharu ag adroddiadau dyddiol am y sefyllfa y gofynnwyd i Air Products eu paratoi. Disgwylir y cyntaf o'r rhain yfory.

Ymateb cychwynnol Air Products yw bod nifer o faterion annisgwyl wedi codi yn ystod y broses newid. Maent wedi mynd i'r afael â’r ffaith bod cryn amser yn cael ei gymryd i ymateb i alwadau, gwirio gwallau ar y Ffurflen Archebu Ocsigen Cartref (HOOF) ac i fwydo gwybodaeth i mewn i’r system. Maent wedi ychwanegu’r bobl hynny sy’n defnyddio llawer or silindrau at eu rhestr o gwsmeriaid ac maent wedi danfon silindrau atynt neu wedi rhoi crynodyddion iddynt yn eu lle yn ystod y pythefnos diwethaf. Yr her ddiweddaraf y mae'r cwmni'n ei hwynebu yw cynnydd mawr iawn yn y presgripsiynau ar gyfer Therapi Ocsigen Tymor Hir (LTOT) Mae’n bosibl bod hyn wedi digwydd am fod opsiwn 'ticiwch y blychau’ ar y ffurflenni HOOF newydd. Yn y tymor byr, mae Air Products wedi canolbwyntio ar anghenion y bobl hynny y mae arnynt angen Therapi Ocsigen Tymor Hir (LTOT) ac maent wedi rhoi blaenoriaeth iddynt. Mae hyn wedi arwain at oedi o safbwynt mynd i’r afael ag anghenion y defnyddwyr hynny sy’n defnyddio llai ar y silindrau.

Mae’n bosibl y bydd angen tipyn o amser i ddatrys y sefyllfa hon. O’r herwydd, rwyf wedi penderfynu y bydd y broses wrth gefn yn parhau tan ddiwedd mis Mawrth, a hynny er mwyn diogelu’r cleifion.

Rydym wedi gofyn i Air Products lunio rhestr o atebion arfaethedig i'w hystyried ddydd Mawrth (21 Chwefror 2006) gan swyddogion Llywodraeth Cynulliad Cymru a'r Adran Iechyd. Yr amcan fydd diweddaru’r cynllun fframwaith ar gyfer trosglwyddo cleifion i’r cyflenwr (cyflenwyr) newydd.

Byddaf yn rhoi gwybodaeth reolaidd i’r Aelodau am hynt y gwaith hwn.