Skip to content

Strategaeth Leoli :Swyddfa Cyffordd Llandudno

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Sue Essex, y Gweinidog dros Gyllid,Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus
Ar 7 Mai 2004, cyhoeddais y câi swyddfeydd newydd Llywodraeth y Cynulliad yn y Gogledd eu lleoli ar hen safle Hotpoint yng Nghyffordd Llandudno.

Mae'r gwaith o ddewis dyluniad a chontractiwr addas wedi mynd rhagddo'n gyflym ac mae'n dda gennyf gyhoeddi fy mod, yn sgil proses gaffael drylwyr, wedi penderfynu rhoi'r contract i HBG Construction Cyf, Manceinion, yn amodol ar gytuno ar yr amodau terfynol.

Bydd y dyluniad sydd wedi'i ddewis yn defnyddio deunydd fel copr, llechi a gwydr o Ogledd Cymru ar gyfer ei allanolion. Bydd yn cael ei adeiladu ar safle hen ffatri Hotpoint yn Narrow Lane, Cyffordd Llandudno a bydd y rhan fwyaf o'i 93,000 tr² yn ofod cynllun agored. Bydd yr adeiladwaith o safon gynaliadwy uchel gan fodloni safonau rhagoriaeth BREEAM (Dull Asesu Amgylcheddol y Sefydliad Ymchwil Adeiladu). Bydd yn defnyddio system awyru naturiol a'r bwriad ar hyn o bryd yw defnyddio system wresogi bio-màs.

Mae'n debygol y caiff y cais cynllunio ei gyflwyno tua diwedd yr haf ac os bydd yn llwyddiannus, disgwylir dechrau ar y gwaith adeiladu ym mis Hydref, gan gymryd rhyw 55 wythnos i'w gwblhau.

Mae hwn yn gam mawr ymlaen yn ein cynlluniau i symud mwy o'r gwasanaethau sy'n cael eu darparu'n uniongyrchol gan adrannau Llywodraeth y Cynulliad yn nes at y cymunedau, a thrwy hynny cynnig cyfleoeodd da i'r gweithlu ddatblygu'u gyrfaoedd yn eu broydd ac adlewyrchu'n well amlochredd dinasyddion Cymru.