Skip to content

Colli Swyddi Kwiksave

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Andrew Davies ,y Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd a Thrafnidiaeth
Mae'n flin iawn gen i bod gwerthu siopau Kwiksave yng Nghymru yn mynd i arwain at golli nifer o swyddi.  Rydym i gyd yn ymwybodol iawn o'r hyn y gall datblygiadau o'r fath ei olygu i'r rheini yr effeithir yn uniongyrchol arnynt ynghyd â'u teuluoedd.

Ond yn yr achos hwn, mae perchenogion newydd portffolio Kwiksave wedi cymryd penderfyniadau masnachol am rai siopau a'u hyfywedd ac ni allaf ddyfalu ynghylch y penderfyniadau hynny.

Yn fwy cadarnhaol, rwy'n credu bod yn rhaid inni groesawu'r ffaith y bydd 55 o'r 68 siop sy'n eiddo i Somerfield yn parhau'n fannau manwerthu.  

Rwyf hefyd yn croesawu'r ffaith bod y sector manwerthu yng Nghymru (gyda thua 196,000 o weithwyr, cynnydd o 16% ers 1999) yn fywiog ar hyn o bryd. Mae ffigurau diweddar yn dangos bod allbwn y sector ar gyfer y pedwar chwarter diwethaf wedi cynyddu 4.5%.

Mae hyn yn ffactor arall sy’n dangos cryfder cyffredinol economi Cymru lle rydym yn gweld tua 140,000 o swyddi yn cael eu creu bob blwyddyn.

Er bod gennyf gydymdeimlad mawr â'r rheini a allai golli eu swyddi gyda Kwiksave, rwy'n hyderus y bydd eu profiad a'u sgiliau a chryfder cyffredinol y sector manwerthu yn sicrhau eu bod yn cael swyddi newydd.