Skip to content

Ysgrifenedig-Cynigion Llywodraeth y DU ar gyfer dyfodol y Rhwydwaith Swyddfeydd Post [datganiad y DTI 14 Rhagfyr]

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Edwina Hart, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio
Er nad yw’r cyfrifoldeb am y Swyddfeydd Post wedi’i ddatganoli, mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cydnabod bob amser werth cymdeithasol a chymunedol swyddfeydd post, yn enwedig wrth gefnogi pobl agored i niwed yn ein cymunedau mwyaf diarffordd a difreintiedig. Rydym yn deall ac yn cefnogi swyddogaeth y swyddfeydd post o ran cynnal cymunedau a hyrwyddo cynhwysiant ariannol.


O ystyried y cefndir hwn, rwy’n parhau i bryderu am gynigion Llywodraeth y DU ar gyfer dyfodol y Rhwydwaith Swyddfeydd Post, er fy mod yn croesawu nifer o agweddau ar ddatganiad yr Ysgrifennydd Gwladol ar 14 Rhagfyr. Rwyf i a fy nghydweithwyr yn Llywodraeth y Cynulliad wedi datgan nifer o weithiau ein barn gref bod swyddfeydd post yn chwarae rhan hanfodol bwysig yn y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Mae pwysigrwydd y swyddfa bost leol yn ehangach o lawer na’i swyddogaeth o ddarparu gwasanaeth post ac rwy’n parhau i bryderu am yr effaith y gallai’r broses hon o gau swyddfeydd ei chael ar grwpiau agored i niwed fel yr henoed, pobl ag anableddau a rhieni sengl. Rydym wedi mynegi’r pryderon hyn yn glir iawn yn ein sylwadau i Lywodraeth y DU ar ddyfodol y rhwydwaith.

Rwy’n croesawu’r penderfyniad i ymestyn cymhorthdal blynyddol Llywodraeth y DU o £150m ac i barhau gyda chyfrif cerdyn Swyddfa Bost newydd wedi i’r contract presennol ddod i ben yn 2010.  Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi bod yn lobïo’n gryf o blaid y canlyniadau hyn.  

Rwy’n sylwi ar y cyfeiriad yn natganiad yr Ysgrifennydd Gwladol at ymgynghori ar y rhan y gallai’r gweinyddiaethau datganoledig ac awdurdodau lleol ei chwarae o ran dylanwadu ar sut y gallai’r gwasanaethau post yn eu hardaloedd gael eu darparu orau yn y dyfodol. Nid yw’r papur ymgynghori yn manylu ar yr awgrym hwn, ond bydd Llywodraeth y Cynulliad yn ystyried, yn gwrando ar safbwyntiau ac yn cyfrannu’n gadarnhaol at y broses honno – er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i gynrychioli buddiannau Cymru mor effeithiol â phosibl.

Mae’r papur ymgynghori yn amlinellu’r meini prawf manwl a ddefnyddir i bennu dyfodol y rhwydwaith. Rwy’n croesawu’r ymrwymiad clir y bydd y meini prawf hyn yn cael eu cymhwyso mewn ffyrdd gwahanol gan ddibynnu ar amgylchiadau lleol. Bydd Llywodraeth y Cynulliad, felly, yn ystyried y meini prawf mynediad arfaethedig ar gyfer swyddfeydd post yn ofalus iawn, ynghyd â’r cynnig i sefydlu 500 o leoliadau Allgymorth newydd, i sicrhau eu bod yn adlewyrchu anghenion cymunedau ledled Cymru yn y ffordd orau bosibl.

Adlewyrchir y pwys y mae Llywodraeth y Cynulliad yn ei roi ar swyddfeydd post yn y polisïau yr ydym wedi’u mabwysiadu. Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi sefydlu’r Gronfa Datblygu Swyddfeydd Post, sydd wedi rhoi grantiau gwerth £4.1m i alluogi is-bostfeistryddion ledled Cymru i foderneiddio eu hadeiladau a chynnig mwy o wasanaethau a chynnyrch. Ni oedd y weinyddiaeth gyntaf yn y DU i gynnig y grantiau hyn mewn ardaloedd gwledig ac ardaloedd trefol difreintiedig. Mae ein cynigion ar gyfer rhyddhad ardrethi i fusnesau bach, a gyhoeddwyd yn ddiweddar, yn dangos ein hymrwymiad parhaus i ddyfodol swyddfeydd post ledled Cymru drwy roi rhyddhad ychwanegol iddynt rhag ardrethi busnes.

Yn awr, bydd yna gyfnod o ymgynghori ar gyhoeddiad yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fasnach a Diwydiant. Mae Llywodraeth y Cynulliad eisoes wedi mynegi ei barn yn glir wrth Weinidogion Llywodraeth y DU a byddwn yn parhau i wneud hynny, gan bwysleisio anghenion Cymru a gwerth cymdeithasol swyddfeydd post.

Yn ogystal â’n hymdrechion ni ein hunain, rwyf am i bobl Cymru chwarae eu rhan yn yr ymgynghoriad a mynegi eu barn yn glir wrth Lywodraeth y DU.