Jane Davidson, Y Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes
Croesawaf y cyfle hwn i wneud datganiad am y cyfnod sylfaen ar gyfer plant tair i saith oed, gan ei fod yn rhan hanfodol o’r sbardun i wella canlyniadau i ddysgwyr yng Nghymru, yn fy marn i.
Yn gynharach yr wythnos hon, cefais gyfle i fynd i’r afael â digwyddiad cadarnhaol: cynhadledd Adeiladu’r Cyfnod Sylfaen. Yn yr araith honno, yr oeddwn yn falch o gadarnhau, yng ngoleuni’r gwerthusiad terfynol o’r cynllun peilot, y byddem yn parhau gyda’n polisi cyfredol o gyflwyno cwricwlwm newydd ar gyfer ein plant tair i saith oed o fis Medi 2008 ymlaen.
Nodwyd yr ymrwymiad i gyflwyno’r cyfnod sylfaen yn ‘Cymru: Y Wlad sy’n Dysgu’ ac fe’i hamlygwyd a’i esbonio ymhellach yn y papur ymgynghori ar y cyfnod sylfaen, a gyhoeddwyd yn 2003. Cefnogwyd y cynigion yn y papur hwnnw gan 96 y cant o ymatebwyr, ac mae’r cyfnod sylfaen bob amser wedi cael cefnogaeth drawsbleidiol a chefnogaeth y Pwyllgor Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau.
Yr ydym wedi bod yn treialu’r cyfnod sylfaen ers mis Medi 2004 ac, yn y gynhadledd ddydd Llun, cyhoeddwyd yr adroddiad gwerthuso ar y cynllun peilot hwnnw ochr yn ochr â’n cynllun gweithredu ar gyfer cyflwyno’r cyfnod sylfaen ar sail statudol o 2008 ymlaen. Rhoddwyd copïau o’r ddwy ddogfen i bob Aelod ymlaen llaw.
Bydd y cyfnod sylfaen yn darparu cwricwlwm i’n pobl ifanc sy’n fwy priodol i’w datblygiad. Mae’n cynnig ymagwedd sy’n diwallu eu hanghenion unigol. Bydd ymagwedd o’r fath, yr wyf yn siwr, yn arwain at lai o ddadrithiad a bydd yn annog mwy o fyfyrwyr i aros yn yr ysgol ac i ddod yn ddysgwyr gydol oes. Llywiodd yr ymagwedd honno athroniaeth a chynnwys y cwricwlwm cyfnod sylfaen, sydd, drwy ei saith maes dysgu, yn ddigon hyblyg i alluogi staff lleol i baratoi profiadau sy’n diwallu anghenion eu plant. Mae’n adeiladu ar yr hyn y gall plant ei wneud a’u cyfraniad i’r amgylchedd dysgu, ac mae’n darparu sail eang a chytbwys i ddysgu a datblygu plant.
Fel y gwyddoch, yn y blynyddoedd cynnar, y ffordd y bydd plant yn cael gafael ar y cwricwlwm sy’n bwysig yn hytrach na’r cynnwys, ac mae’r broses y bydd plant ifanc yn destun iddi yn fwy pwysig na’r cynnyrch yn y pen draw. Gyda’r cyfnod sylfaen, mae gennym fodel addysg erbyn hyn sy’n seiliedig ar ddysgu drwy chwarae a phrofiadau gwirioneddol yn yr amgylchedd dysgu mewnol a’r amgylchedd dysgu allanol.
Cyflwyna’r cyfnod sylfaen ymagwedd ac athroniaeth newydd. Mae’n defnyddio chwarae a dysgu profiadol yn gadarnhaol ac i raddau mwy helaeth. Fodd bynnag, nid â chwarae yn unig y mae’n ymwneud; mae’n ymwneud â darparu cyfleoedd mwy priodol a pherthnasol i’n plant ddysgu a datblygu, ac mae chwarae yn rhan allweddol o’r cyfleoedd hynny. Mae chwarae sydd wedi’i gynllunio’n dda yn helpu plant i feddwl ac i ddeall y byd o’u hamgylch, mae’n eu galluogi i fod yn greadigol, i archwilio ac ymchwilio i wahanol ddeunyddiau, ac mae’n rhoi’r cyfleoedd iddynt arbrofi a rhagfynegi canlyniadau. Mae plant yn dysgu pan fyddant yn chwarae a bydd y cyfnod sylfaen yn eu galluogi i gaffael y sgiliau i ddysgu sut i ddysgu.
Mae arsylwi plant yn rhan allweddol o asesu yn y cyfnod sylfaen ac mae gennym ganllawiau drafft a gafodd eu croesawu o ran yr agwedd hon. Mae’n canolbwyntio ar yr hyn y gall y plentyn ei wneud, ac nid dim ond ar ganlyniadau y penderfynir arnynt ymlaen llaw. Ar ddiwedd y cyfnod, cynhelir asesiadau athrawon statudol mewn tri maes dysgu arfaethedig: datblygiad personol a chymdeithasol, lles ac amrywiaeth diwylliannol; iaith, llythrennedd a sgiliau cyfathrebu, Cymraeg neu Saesneg; a datblygiad mathemategol. Caiff proffil cyfnod sylfaen ei ddatblygu sy’n canolbwyntio ar gyflawniadau a chamau datblygu plant, a defnyddir hwnnw at ddibenion pontio. Disgwylir y cynhelir cofnod parhaus o sgiliau a chamau datblygu plant. Cynhelir adolygiad o’r gofynion sylfaenol statudol er mwyn sicrhau addasrwydd a pherthnasedd i’r cyfnod sylfaen.
Bydd yr ymagwedd newydd sy’n rhan annatod o’r cyfnod sylfaen, wrth gwrs, yn cael effaith ar bawb sy’n gweithio gyda’n plant ieuengaf. Bydd athrawon yn parhau i arwain yn yr ystafell ddosbarth, ond bydd cynorthwywyr yr ystafell ddosbarth yn chwarae rôl fwy rhagweithiol gydag unigolion a grwpiau o blant. Bydd angen inni sicrhau bod pob aelod o staff yn cael ei hyfforddi yn athroniaeth y cyfnod sylfaen.
Yr wyf yn llwyr ymrwymedig i sicrhau bod pobl wedi’u hyfforddi’n addas i ddarparu’r cyfnod sylfaen. Yr ydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol ar hyn o bryd, yn ystyried materion yn ymwneud â’r gweithlu drwy ddadansoddi nifer y bobl sy’n gweithio yn y blynyddoedd cynnar, yn nodi eu hanghenion o ran hyfforddi, ac yn rhoi rhaglen hyfforddi ar waith yn ystod yr adeg sy’n arwain at gyflwyno’r cyfnod sylfaenol a thu hwnt. Bydd y gwaith hwnnw yn darparu cynllun gweithlu ac amcangyfrif realistig o ba arian sydd ei angen i ddarparu’r cyfnod sylfaen. Fodd bynnag, gwyddom eisoes y bydd angen buddsoddiad mawr arno, am fod y cyfnod sylfaen yn rhan allweddol o’r weledigaeth fawr sydd gennym ar gyfer trawsnewid cyfleoedd bywyd ein plant ieuengaf.
Mae hwn yn becyn newid sylweddol, sy’n gofyn am fuddsoddiad mawr ac ymrwymiad gan bob rhanddeiliad a phartner, ond mae’n becyn y mae Llywodraeth y Cynulliad yn benderfynol o’i ddarparu. Amlygir hynny gan yr ymrwymiad ariannol cynyddol a wnaed gennym ers i’r cynllun peilot ddechrau yn 2004-05, pan sicrhawyd £500,000, i’r £10 miliwn yng nghyllideb ddrafft y flwyddyn nesaf.
Bydd angen ymdrin ag arian ar gyfer y blynyddoedd ar ôl 2007 ym mhob cylch cynllunio cyllideb olynol, fel yr wyf bob amser wedi’i egluro. Fodd bynnag, mae’r cyfnod sylfaen bob amser wedi denu cefnogaeth hollbleidiol. Dangosodd yr arbenigwyr blynyddoedd cynnar yn y gynhadledd ddydd Llun frwdfrydedd amlwg dros y cyfnod sylfaen, ac anogaf bob Aelod i ymuno â mi i gefnogi’r brwdfrydedd hwnnw. O ran dyled i blant ieuengaf Cymru, dylem oll sicrhau bod y cyfnod sylfaen yn llwyddiannus fel y gallant gael dechrau gwirioneddol deg mewn bywyd.