Heddiw, yr wyf wedi cyhoeddi ymateb cyffredinol Llywodraeth Cynulliad Cymru i ‘Ar Draws Ffiniau’, sef adroddiad yr adolygiad ar ddarparu gwasanaethau lleol, dan gadeiryddiaeth Syr Jeremy Beecham. Cafodd yr adroddiad groeso brwd ar draws y pleidiau ac mewn lleoedd eraill fel dogfen sy’n torri tir newydd, ac mae ein dyled yn fawr i’r tîm. Ei brif neges oedd ein bod, yn ‘Creu’r Cysylltiadau’, ar y trywydd iawn yn Llywodraeth y Cynulliad, ond bod yn rhaid mynd ati i weithredu yn gyflymach ac ymhellach. Cydnabyddwn y llwyddiannau niferus yng ngwasanaethau cyhoeddus Cymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ond derbyniwn gasgliad Beecham fod y perfformiad yn rhy amrywiol a bod eto le i wella ymhellach.
Mae’r egwyddorion eang yn ein hymateb yn ymwneud ag integreiddio gwasanaethau cyhoeddus yn well, yr angen am fwy o gysondeb mewn gwasanaethau cyhoeddus a rheoli perfformiad yn fwy effeithiol, a’r angen am arweiniad mwy cadarn oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru. Mae pobl Cymru yn dal yn ganolog o ran ein huchelgeisiau ar gyfer y gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru. Ym maes integreiddio gwasanaethau’n well y mae mwyaf o le i wella. Mae hyn yn arbennig o wir am y grwpiau hynny sy’n wynebu’r perygl mwyaf, megis yr henoed bregus, plant agored i niwed, neu’r rhai sy’n dioddef gan salwch meddwl, unigolion y mae gwahanol rannau’r gwasanaeth cyhoeddus, yn llawer rhy aml, yn cynnig amrywiaeth fawr o gymorth gwahanol iddynt, ond gyda diffyg cydgysylltu.
Yr ydym yn awr yn cynnig bwrdd gwasanaethau lleol i bob awdurdod lleol er mwyn dwyn ynghyd y sefydliadau lleol allweddol sy’n darparu gwasanaethau gyda’r nod o fonitro darparu gwasanaethau a datblygu gweithredu ar y cyd lle y mae ei angen fwyaf. Bydd aelodaeth y bwrdd yn cynnwys arweinyddion a swyddogion arweiniol y sefydliadau presennol, rhai sydd wedi eu datganoli a heb eu datganoli, ac ni fydd y bwrdd gwasanaethau lleol ei hun yn cyflogi staff. Bydd y byrddau gwasanaethau lleol yn ddatblygiad o’r partneriaethau strategaeth gymunedol presennol a byddant yn darparu ffocws er mwyn ad-drefnu’r partneriaethau presennol eraill a sicrhau eu bod yn gweithredu’n effeithiol.
Erbyn 2008-09, bwriadwn i Lywodraeth Cynulliad Cymru fod wedi sefydlu cytundebau gwasanaeth lleol a fydd yn cynnwys nifer gyfyngedig o fyrddau gwasanaethau lleol i ddechrau, cytundebau a fydd yn dynodi’r allbynnau traws-sector allweddol y bydd y byrddau yn ymdrechu i’w cyflawni. Bwriadwn ddatblygu syniadau newydd ym maes cyllid a fydd yn annog cyfuno cyllidebau i gefnogi cytundebau ardal lleol.
Mae’r ail egwyddor y cyfeiriais ati yn ymwneud â defnyddio gwybodaeth am berfformiad yn fwy effeithiol a sicrhau gwell cysondeb. Yn Llywodraeth Cynulliad Cymru byddwn yn sefydlu uned newydd fach o’r enw Perfformiad Cymru, a’i chyfrifoldeb fydd gweithio gyda’r cyrff presennol sy’n darparu gwybodaeth am berfformiad i ddarparu gwybodaeth fwy cydgysylltiedig a hwylus y gellir ei defnyddio i gynorthwyo i wella gwasanaethau. Ym mhob rhan o wasanaeth cyhoeddus Cymru, rhaid inni roi rhagor o gefnogaeth a rhoi gwell statws i’r dasg o fonitro ac arfarnu perfformiad. Fel y nododd adroddiad Beecham, rhaid datblygu’r rôl hon yn y Cynulliad. O fewn awdurdodau lleol, y byrddau gwasanaethau newydd a’r GIG, mae angen inni roi gwell cefnogaeth i’r rhai a all gynorthwyo gwelliant mewn gwasanaethau wrth iddynt arfarnu perfformiad.
Wrth inni wella ein gwybodaeth am berfformiad a datblygu cytundebau gyda byrddau gwasanaethau, ein bwriad yw datblygu nifer cyfyngedig o safonau craidd mewn darparu gwasanaethau, sy’n hawl y gellir ei sicrhau i bob dinesydd ym mhob rhan o Gymru. Mae’r dull hwn o weithredu’n seiliedig ar yr egwyddor o roi pobl yn hytrach na biwrocratiaeth yn gyntaf: er enghraifft, darparu llwybrau gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, ac nid ar y sefydliad.
Mae’r drydedd egwyddor yn ymwneud â’r nod o ddatblygu arweiniad cadarnach, trefn lywodraethu dda a mwy o ymgysylltu o du Llywodraeth Cynulliad Cymru yn y broses o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus. Bydd Perfformiad Cymru hefyd yn cynorthwyo gyda’r agwedd hon, ond yr ydym yn benderfynol o beidio â thanseilio’r cyfrifoldeb a ddylai fod yn nwylo sefydliadau lleol o ran darparu gwasanaethau. Nid yw’n fwriad gennym ficroreoli na chanoli rheolaeth.
Fodd bynnag, pan fydd Llywodraeth y Cynulliad yn amlinellu amcanion a strategaethau ar gyfer darparu gwasanaethau, a phan fydd y Cynulliad yn rheoleiddio ynglyn â darpariaeth gwasanaethau, mae cyfrifoldeb arnom ddarparu cefnogaeth ac arweiniad i sefydliadau lleol. Yn hyn o beth, mae angen i Lywodraeth y Cynulliad roi mwy o bwyslais ar y broses ddarparu ac ymgysylltu mwy â hi.
Bydd ein cynigion yn caniatáu inni ddarparu gwybodaeth fwy defnyddiol am berfformiad ar draws sectorau gwasanaeth i fyrddau gwasanaethau lleol. Hefyd, mae gennym fwriad radical i swyddogion Llywodraeth Cynulliad Cymru fod yn gyfranogwyr ym mhob bwrdd gwasanaethau lleol, gan ddarparu gwybodaeth, dod â negeseuon yn ôl i Lywodraeth y Cynulliad, a throsglwyddo profiadau o un bwrdd gwasanaethau lleol i un arall.
Mae ein cynigion ar gyfer gweithio ar draws sectorau ar lefel leol yn ychwanegol at y gefnogaeth yr ydym yn ei rhoi i waith arloesol o ran cydweithredu ar lefelau rhanbarthol a lleol. Mae’r ymateb heddiw’n cyfeirio at y bwriad y dylai pob bwrdd iechyd lleol, yn y GIG, gydweithredu i ffurfio tri chonsortiwm rhanbarthol i gomisiynu gwasanaethau ysbyty arbenigol. Yr ydym yn bwriadu ymestyn profiad y gogledd o ddatblygu rhaglen wasanaeth ar y cyd yn y GIG i bob rhan o Gymru. Byddwn yn parhau i gefnogi gwaith yr awdurdodau lleol wrth ddod o hyd i atebion rhanbarthol i ddarparu gwasanaethau ym meysydd gwastraff, trafnidiaeth, gofal arbenigol a rhwydweithiau TGCh gwasanaeth cyhoeddus.
Mae’r camau yr wyf wedi eu hamlinellu’n adeiladu ar y dechrau cyffrous a wnaethpwyd gan ein sefydliad cefnogi’r gweithlu, Rheoli Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, ochr yn ochr ag Asiantaeth Genedlaethol Arwain ac Arloesi mewn Gofal Iechyd, ac eraill. Yr ydym yn gwerthfawrogi’r bobl sy’n gweithio i’n gwasanaethau a’u parodrwydd i dderbyn newid. Bydd y bartneriaeth gyda’r undebau llafur yn parhau’n allweddol, gan gynnwys ein fforwm unigryw i weithlu’r gwasanaethau cyhoeddus.
Gwyddom na allwn ddibynnu ar gynnydd sylweddol mewn gwariant i ariannu’r gwelliannau yr ydym i gyd am eu gweld i’r gwasanaeth. Mae gan Werth Cymru rôl allweddol i gynorthwyo gwasanaethau cyhoeddus i wella’u ffordd o wneud eu gwaith, a bydd y gwaith hwnnw’n parhau. Gwelwyd cynnydd da ym maes caffael, ond mae llawer yn rhagor i’w wneud eto o ran datblygu modelau rhannu gwasanaethau.
Dim ond cam cyntaf ein hymateb i adolygiad Beecham yw’r ddogfen hon. Yn y man, byddwn yn darparu cyfres o ddogfennau eraill ynghylch ein bwriadau ar gyfer gwasanaeth iechyd yn y gymuned, ynghylch iechyd y cyhoedd, ynghylch llywodraeth leol, ac ynghylch rôl rheoleiddio ac arolygu.
Mae hon yn weledigaeth ar y cyd ar draws gwasanaethau cyhoeddus, ac mae’n seiliedig ar brofiadau pobl ar lawr gwlad ac yn ymateb i fywydau pobl. Yr wyf yn ddiolchgar i bawb sydd wedi cynorthwyo i ddatblygu’r weledigaeth. Gosododd tîm adroddiad Beecham her i Gymru i fod yn esiampl o ran sut y gall gwlad fach gynllunio a darparu gwasanaethau. Credaf y gallwn gyflawni hynny, drwy weithio gyda’n gilydd.