Skip to content

Ysgrifenedgig - Adleoliad Comisiwn Sgrin Cymru I Gaerdydd

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Andrew Davies, Y Gweinidog Dros Fenter, Arloesi A Rhwydweithiau
Tan yn ddiweddar, roedd Comisiwn Sgrin Cymru’n cynnwys nifer o gyrff amrywiol eu cyfansoddiad trwy Gymru a fyddai’n cynnig gwasanaethau lleoliad i wneuthurwyr ffilm a rhaglenni teledu cynhenid ac o’r tu allan. Mae ganddo bresenoldeb yng Ngogledd, Canolbarth, De-orllewin a De-ddwyrain Cymru. Yn y dyfodol, bydd gweithgarwch y Comisiwn Sgrin yn cael ei gyfnerthu dan fantell Busnes Creadigol Cymru (sy’n rhan o Busnes Cymru Rhyngwladol) sydd â thri aelod staff craidd gyda chyfrifoldeb am waith datblygu o fewn y sector ffilm a theledu. Bydd hyn yn galluogi darpariaeth ystod fwy cynhwysfawr o gefnogaeth i’r diwydiannau ffilm a theledu gan un corff unigol.

Ymhellach, tra bydd gweithgareddau Comisiwn Sgrin Cymru’n cael eu cydlynu gan Busnes Creadigol Cymru, sy’n seiliedig yng Nghaerdydd, nid yw Comisiwn Sgrin Cymru’n cael ei adleoli i Gaerdydd. Bydd yr ailstrwythuro, er mwyn adlewyrchu’r pwysigrwydd a roddwn ar gynrychiolaeth ranbarthol, yn cynnwys cadw presenoldeb yng Ngogledd Cymru (un person yng Nghaernarfon), yn y Canolbarth (un person yn Aberystwyth), De-orllewin Cymru (un llawn-amser ac un rhan-amser yn Llandeilo) a De-ddwyrain Cymru (dau lawn-amser ac un rhan-amser). Cyflawnir y swyddi rhan-amser yn Llandeilo a Chaerdydd gan yr un person ac, yn ddibynnol ar ystyriaethau busnes, fe ellid ei adleoli i Benllergaer.

Llynedd, o’r £18 miliwn o fusnes a gofnodwyd, symbylwyd dros £17 miliwn ohono yn Ne-ddwyrain Cymru. Eleni hyd yma, mae gwerth £8 miliwn o fusnes wedi ei gofnodi gyda phrin £16,000 ohono’n cael ei briodoli i Ogledd Cymru. Roedd y dyraniad adnoddau’n seiliedig ar y canlyniadau hyn yn anghynaladwy . Rydym felly wedi cynnal adolygiad trylwyr o Gomisiwn Sgrin Cymru ac i fynd afael â’r farn gadarn iawn fod gormod o gymorth busnes sector cyhoeddus yng Nghymru a’i fod angen ei resymoli ac er mwyn sicrhau ein bod yn canolbwyntio cymorth yn y mannau hynny lle caiff yr effaith fwyaf, yn seiliedig ar resymiadau busnes craff, gwnaed y penderfyniad i ailstrwythuro’r Comisiwn ac i ailddyrannu, nid lleihau, adnoddau er mwyn i’r gwasanaeth gwrdd ag anghenion busnes ein cwsmeriaid yn well.